• Llawn Amser
  • Lefel 1

Diploma City & Guilds mewn Coginio Proffesiynol Lefel 1

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Arlwyo a Lletygarwch
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
1

Yn gryno

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol.

... Rydych yn mwynhau gweithio dan bwysau
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd

Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.

Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2.

Mae'r pynciau y byddwch yn mynd i'r afael â nhw ar y cwrs yn cynnwys:

  • Diogelwch Bwyd
  • Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Iechyd a Diogelwch
  • Bwyd iachach a dietau arbennig
  • Cyflwyniad i offer y gegin
  • Berwi, potsio a stemio
  • Pobi, rhostio a grilio
  • Ffrio dwfn a ffrio bas
  • Adfywio bwyd parod
  • Paratoi bwyd oer
  • Crefft coginio proffesiynol
  • Gwasanaeth bwyty - gwasanaeth bwyd, diod a bar
  • Sgiliau barista coffi
  • Dosbarthiadau Meistr Academi Fforwm y Cogyddion (un y mis)

Mae’r Dystysgrif Gwasanaeth Bwyd a Diod Cyffredinol Lefel 1 yn gymhwyster ychwanegol. Byddwch yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, sef Morels ar Gampws Crosskeys a Cwtch ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent. Byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.

Byddwch yn cael eich asesu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformiad ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol

A byddwch yn cyflawni'r cymwysterau canlynol:

Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol a/neu Lefel 2 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod (yng Nghampws Crosskeys)

NVQs yn y gweithle mewn meysydd sy'n ymwneud â choginio proffesiynol, gwasanaeth bwyd a diod, gwasanaeth blaen ty, gwasanaeth cwsmer a gwasanaethau cegin.

Gradd C neu’n uwch mewn o leiaf 3 TGAU, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Lefel Mynediad 3/Lefel 1. Caiff ymgeiswyr sydd heb y cymwysterau TGAU gofynnol eu hystyried ar sail eu profiad blaenorol neu gymwysterau amgen.

Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, dillad cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua £230.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.

Catering and Hospitality student at event waitressing

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0057AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Ymgeisiwch nawr
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy