• Llawn Amser
  • Lefel 1

NCFE Tystysgrif mewn Teithio a Thwristiaeth Lefel 1

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Teithio a Thwristiaeth
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
1

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyflwyniad cyffrous i’r diwydiant Teithio a Thwristiaeth gan gyfuno tri chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sef NCFE Tystysgrif Lefel 1 mewn Teithio a Thwristiaeth,y Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyflwyniad i Griw Caban,ac y Agored Lefel 1 Tystysgrif Estynedig yng Nghymru, Ewrop a’r Byd.Bydd dysgwyr yn archwilio sut mae’r sector teithio a thwristiaeth yn gweithredu gan ddatblygu dealltwriaeth am gyrchfannau yng Nghymru, Ewrop a’r tu hwnt a chael mewnwelediad i’r rolau, y cyfrifoldebau a safonau proffesiynol criw caban. Mae’r cwrs yn meithrin sgiliau ymarferol megis gwasanaeth i gwsmeriaid, cyfathrebu a gwaith tîm wrth gefnogi symud ymlaen i astudio pellach, hyfforddiant neu gyflogaeth mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â theithio, twristiaeth a hedfanaeth.

  • Mae gennych chi ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant teithio, twristiaeth neu griw caban

  • Hoffech chi ddysgu am gyrchfannau yng Nghymru, Ewrop a’r byd ehangach

  • Rydych chi’n ystyried gyrfa yn y dyfodol mewn rôl criw caban neu rôl sy’n wynebu cwsmeriaid

  • Rydych chi’n mwynhau dysgu am bobl, diwylliannau a theithio byd-eang

Byddwch chi’n astudio ystod o unedau sydd wedi’u dylunio i roi cyflwyniad cryf i’r diwydiannau teithio, twristiaeth a chriw caban. Bydd dysgu yn cyfuno gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, tasgau ymarferol, gwaith grŵp ac astudio annibynnol.

Fel rhan o sef NCFE Tystysgrif Lefel 1 mewn Teithio a Thwristiaeth,byddwch chi’n:

  • Archwilio strwythur y diwydiant teithio a thwristiaeth a’r ystod o rolau sydd ar gael

  • Dysgu am y mathau gwahanol o dwristiaeth a sut maent yn effeithio ar gyrchfannau

  • Datblygu sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid a sgiliau cyfathrebu sy’n cael eu defnyddio mewn lleoliadau teithio a thwristiaeth

  • Deall iechyd a diogelwch yn y diwydiant

Trwy’r cymhwyster Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyflwyniad i Griw Caban,byddwch chi’n:

  • Dysgu am rôl a chyfrifoldebau criw caban

  • Datblygu safonau proffesiynol, sgiliau cyflwyno a sgiliau gwaith tîm a ddisgwylir ym maes hedfanaeth

  • Deall gofal teithwyr, gweithdrefnau diogelwch a gwasanaeth wrth hedfan

  • Magu hyder wrth gyfathrebu, datrys problemau ac ymdrin â chwsmeriaid

Fel rhan o Agored Lefel 1 Tystysgrif Estynedig yng Nghymru, Ewrop a’r Byd.byddwch chi’n:

  • Astudio nodweddion daearyddol allweddol Cymru, Ewrop a chyrchfannau byd-eang

  • Archwilio diwylliannau, traddodiadau ac atyniadau twristiaid mewn gwledydd gwahanol

  • Datblygu sgiliau darllen map, sgiliau ymchwil a sgiliau cyflwyno

  • Ennill dealltwriaeth o sut mae teithio byd-eang yn cysylltu pobl, lleoedd ac economïau

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi hefyd yn:

  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, prosiectau a chyflwyniadau a theithiau.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy megis gwaith tîm, rheoli amser a dysgu yn annibynnol

  • Paratoi ar gyfer symud ymlaen i gwrs Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth neu gyflogaeth yn y sectorau teithio, twristiaeth neu sectorau cysylltiedig

Disgwylir i chi fynychu gwersi yn rheolaidd a chyrraedd yn brydlon, yn barod i ddysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae agwedd gadarnhaol, parodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd a dangos parch at bobl eraill yn hanfodol drwy gydol y cwrs.

Dylech chi fod yn barod i gymryd rhan mewn gwaith grŵp, trafodaethau, cyflwyniadau a thasgau ymarferol, yn ogystal â chwblhau gwaith dosbarth a gwaith cartref i fodloni dyddiadau cau ar gyfer asesiadau. Bydd sgiliau trefnu da, sgiliau rheoli amser a’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn eich helpu i lwyddo.

Hefyd, bydd disgwyl i chi ddilyn polisïau’r coleg o ran ymddygiad, côd gwisg ac iechyd a diogelwch ac i ddangos safonau proffesiynol, yn enwedig wrth astudio unedau criw caban a gwasanaeth i gwsmeriaid. Bydd bod yn agored i adborth ac yn ymrwymedig i ddatblygu eich sgiliau a’ch hyder yn cefnogi eich cynnydd ar y cwrs a’ch astudio neu’ch cyflogaeth yn y dyfodol.

NCFE Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth

I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd E neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg a Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Hanfodol ar Lefel Mynediad 3/Lefel 1

Bydd gofyniad i ddysgwyr amser llawn brynu gwisg a fydd yn costio oddeutu £90.00 yn ogystal â thalu am wibdeithiau ac ymweliadau a fydd yn costio oddeutu £100 i £150.

Teithio a Thwristiaeth

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFCE3840AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy