Yn gryno
Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol
... Rydych chi’n gweithio’n dda dan bwysau
... Rydych yn ffynnu mewn amgylchedd lle mae plesio'r cwsmer yn flaenoriaeth
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn lletygarwch
Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym ac yn yrfa heriol, ond hynod gwerth chweil.
Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2.
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r holl gyfrifoldebau sylfaenol, o gynnal gweithle diogel i baratoi a gweini bwyd a diod.
Mae'r unedau rydym yn mynd i'r afael â nhw yn cynnwys:
- Cynnal amgylchedd gweithio diogel a hylan
- Cyfrannu at weithio fel tîm yn effeithiol
- Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
- Paratoi llysiau
- Coginio llysiau
- Paratoi a choginio cig a dofednod
- Paratoi a choginio pasta
- Paratoi a choginio reis
- Coginio a gorffen cynnyrch bara a toes syml
Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios, cyflwyniadau ac arddangosiadau, a byddwch yn ennill:
Tystysgrif NVQ 1 mewn Paratoi a Choginio Bwyd a Thystysgrif NVQ 1 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod, yn ogystal â:
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs, ond mae'n rhaid ichi ddangos brwdfrydedd am y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Byddwch angen bod yn berson sy'n gallu cymell ei hun, gweithio'n galed, yn rhifog ac â phersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs.
Diploma Level 1 mewn Coginio Proffesiynol, NVQs yn y Gweithle yn y meysydd coginio a gwasanaeth bwyd a diod.
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Byddwch angen prynu gwisg cogydd a gwisg y bwyty ynghyd ag offer/llyfr a manion a fydd â chost o tua £290.00.