• Rhan Amser
  • Lefel 3

IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 3

Motorcycle in a workshop
Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Moduro
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
34 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
3
Ffioedd
Am ddim Gall gostyngiadau fod ar gael
£0.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a'i fwriad yw diwallu elfen ddamcaniaethol y cwrs VCQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Beiciau Modur. Mae hefyd yn diwallu gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Beiciau Modur.

... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur).

... Oes gennych ddiddordeb ysol mewn beiciau modur.

... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac yn weithgar.

Ceir 9 o fodiwlau i'w cwblhau trwy gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Byddwch yn astudio unedau fel:

  • Iechyd, diogelwch a threfniadau da yn yr amgylchedd modurol
  • Cymorth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd modurol
  • Deunyddiau, dulliau saernïo, offer a dyfeisiadau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
  • Diagnosio a chywiro diffygion trydanol mewn beiciau modur
  • Paratoi ac archwilio beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn injans beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion mewn systemau siasis beiciau modur
  • Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a diffygion llinellau gyriant mewn beiciau modur
  • Gwybodaeth am sut i ganfod a chytuno ar anghenion gwasanaeth cwsmeriaid cerbydau modur

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn tim, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol.

Ar ol cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill:

  • IMI Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Beiciau Modur)
  • Cymwysterau atodol perthnasol i ehangu eich set sgiliau a bodloni gofynion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg

Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2, neu Ddiploma Lefel 2 Cyfwerth. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried fesul un, gan ddibynnu ar sgiliau a phrofiad.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn gwneud lefel 2 amser llawn ac a fydd yn symud ymlaen i lefel rhan amser 3 y flwyddyn nesaf.

Bydd angen y PPE cywir arnoch ar gyfer y cwrs hwn. Mae hyn yn costio tua £40.

Mae'r cwrs hwn yn 12 awr yr wythnos.

Canolfan ATA

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CPDI0465AA
Amser Dechrau
09:15
Hyd
34 wythnosau
Amser Gorffen
16:30
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth

Ffioedd: £free

£0.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy