• Llawn Amser
  • Lefel 3

BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
1 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lefel
3

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu ystod eang o ddisgyblaethau adeiladu, gan eich paratoi at ddilyn eich llwybr gyrfa o ddewis.

Ydych am gael gyrfa yn y disgyblaethau adeiladu technegol.
…Ydych yn gweithio’n effeithiol fel rhan o dîm
…Oes diddordeb gennych mewn yr agwedd ddamcaniaethol ar adeiladu a chynllunio'r amgylchedd adeiledig

Wrth ddysgu'n fanwl am y diwydiant, byddwch hefyd yn paratoi at ennill gyrfa gan weithio mewn amrywiaeth o swyddi megis (ond nid dim ond): peirianneg sifil, peirianneg gwasanaethau adeiladu, dylunio/pensaernïaeth a goruchwylio/rheoli prosiectau adeiladu.

Mae Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gwent ar gael, a bydd hyn hefyd yn ffurfio dilyniant naturiol i'r prentisiaid hynny sydd eisoes wedi cyflawni NVQ seiliedig ar grefft.

Dyma'r cwrs dilyniant delfrydol i chi os oes diddordeb gennych mewn dilyn gyrfa broffesiynol yn y maes adeiladu. Gall gynnwys cynllunio, cynaliadwyedd, dylunio a gweithio fel rhan o dîm ar y safle neu mewn swyddfa. Byddwch yn astudio unedau craidd a dewisol gan cynnwys:

egwyddorion adeiladu • dylunio adeiladau • iechyd a diogelwch yn y maes adeiladu • technoleg adeiladu • darparu gwasanaethau sylfaenol yn y maes adeiladau • gwyddorau'r gwasanaethau adeiladu.

Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau rhyngbroffesiynol parhaus a gweithgareddau ymarferol ar y safle, gan gynnwys arolygu topograffig ac unionlin, dylunio â chymorth cyfrifiadur (computer aided design - CAD) a thechnegau lluniadu graffigol.

Cewch eich asesu trwy gwblhau waith cwrs a fydd yn cynnwys gweithgareddau ysgrifenedig ac ymarferol. Ar gwblhau’r cwrs byddwch wedi cyflawni:

Bydd cwblhau Diploma 90 Credyd Blwyddyn 1 yn eich galluogi i symud ymlaen i’r ail flwyddyn a chwblhau’r Diploma Estynedig llawn. O’r fan honno, mae’r llwybrau cynnydd yn cynnwys:

  • Gradd Sylfaen/HNC/HND neu gwrs gradd llawn
  • Prentisiaethau lefel uwch

Bydd rhaid i chi feddu ar o leiaf gradd C mewn 5 TGAU, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu deilyngdod mewn Diploma Lefel 2 priodol a gradd C mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Female Construction student

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EFBE0044AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy