• Llawn Amser

Gradd Atodol BA – Ffotograffiaeth

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth
Dyddiad Cychwyn
22 Medi 2025
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys

Yn gryno

Mae’r flwyddyn olaf o't radd ffotograffiaeth hon (BA Anrh) yn cyfuno sgiliau ffotograffiaeth greadigol ag astudiaeth academaidd, fel eich bod yn gallu cyfleu eich creadigrwydd a’ch syniadau drwy ffotograffiaeth.

Yn y BA atodi ffotograffiaeth hon, cewch edrych ar arbenigedd mewn ffotograffiaeth a datblygu arbenigedd a fydd yn rhoi modd i chi droi eich brwdfrydedd a’ch creadigedd yn yrfa. Mae’r cwrs dros dair blynedd ar gampws Crosskeys, ac yn arwain at gymhwyster BA (Anrh) ar lefel chwech.

... Rydych chi’n greadigol

... Mae gennych ddiddordeb mawr mewn ffotograffiaeth

... Rydych chi o ddifri am yrfa mewn ffotograffiaeth

Mae’r BA atodi mewn Ffotograffiaeth yn cynnwys popeth o ffotograffiaeth fasnachol mewn meysydd fel portreadau, priodasau, ffasiwn, golygyddol neu hysbysebu, hyd at gelfyddyd gain, celf gysyniadol a chelf arddangosfa. Bydd y cwrs cyffrous ac arloesol hwn yn datblygu eich gyrfa ffotograffiaeth, ac yn rhoi rhwydd hynt i chi fod y ffotograffydd rydych chi wastad wedi dychmygu cael bod.

Yn y cwrs ffotograffiaeth hwn, gallwch ddatblygu eich creadigedd a gweithio tuag at faes arbenigol. Byddwch yn datblygu sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a thechnegau ffilm traddodiadol, ac mewn cyfryngau eraill hefyd fel delwedd symudol, sain, dylunio’r we, SEO, prosesau amgen, datblygu portffolio ac arddangosfa. Mae’r radd sylfaen hon mewn ffotograffiaeth yn un ymarferol gan mwyaf, ond mae’n datblygu dealltwriaeth o hanes ffotograffiaeth hefyd, er mwyn gallu gwerthfawrogi cyd-destun ffotograffiaeth yn well.

Mae’r ochr ymarferol yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o weithdai, darlithoedd a thiwtorialau, yn ogystal â sgrinio, ymweld ag orielau, teithiau maes a thaith ryngwladol. Ar y cwrs, rydym yn falch o’n cysylltiadau â diwydiant, ac yn darparu llu o gyfleoedd i’n myfyrwyr weithio gyda phobl broffesiynol drwy brosiectau cleientiaid.

Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i greu eich prosiect ffotograffiaeth eich hun, siapio eich llwybr gyrfa efo cleientiaid a chreu traethawd hir neu arteffact celf a dylunio.

Yn ystod y cwrs, byddwch yn cwblhau’r modiwlau canlynol:

  • Ymarfer Ffotograffig Proffesiynol
  • Safleoli
  • Cyfraniad

Drwy gyfres o brosiectau ymarferol a heriol, byddwch yn gwella eich gwybodaeth o dechnegau ffotograffig. Bydd pob modiwl ymarferol yn datblygu eich sgiliau technegol ac yn gosod aseiniadau cyffrous i ddatblygu eich creadigedd a gwella eich sgiliau efo’r camera.

Ar y cwrs, byddwch chi’n astudio ac yn ymchwilio i ffotograffiaeth ac yn datblygu sgiliau technegol ac artistig heb eu hail, gan ddefnyddio cyfleusterau pwrpasol. Bydd y rhain yn cynnwys ystafell dywyll wlyb draddodiadol, stiwdio broffesiynol, cyfrifiaduron o safon ddiwydiannol, meddalwedd trin lluniau, cymwysiadau ffilm, fideo a rhyngrwyd.

Byddwch yn edrych ar ffotograffiaeth lonydd a byw, yn arddangos eich gwaith, ac yn cynhyrchu portffolio gwaith cyfoethog, traethodau a llyfrau braslunio ymchwil.

Er mwyn cofrestru ar y cwrs, bydd angen i chi fod wedi cwblhau ail flwyddyn (lefel pump) rhaglen FD/BA ffotograffiaeth (neu raglen gradd FD/BA lefel pump perthnasol arall, fel celfyddyd gain neu gyfryngau), ac ennill 120 credyd ar lefel pump.

Bydd y cwrs atodi hwn yn rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad sydd eu hangen arnoch am yrfa mewn ffotograffiaeth, neu gallwch barhau â’ch addysg. Bydd BA (Anrh) yn arwain at fwy o gyfleoedd yn y byd addysg a gwaith.

Er mwyn cofrestru ar y cwrs, bydd angen i chi fod wedi cwblhau ail flwyddyn (lefel pump) rhaglen FD/BA ffotograffiaeth (neu raglen gradd FD/BA lefel pump perthnasol arall, fel celfyddyd gain neu gyfryngau), ac ennill 120 credyd ar lefel pump.

Bydd disgwyl i chi brynu camera digidol SLR o ansawdd da efo cerdyn SD. Ar hyd y tair blynedd, bydd angen i chi ddarparu deunyddiau arddangos, fel llyfrau braslunio a phortffolios. Bydd angen i chi hefyd brynu eich printiau eich hun.

Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd sydd yn breinio’r cwrs.

Cod y sefydliad yw C20.

Cod y campws yw 7.

Camera DSLR, £300+. Gorfodol - N

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDA0001AA
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy