Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn rhoi cyflwyniad uwch i chi i’r sectorau teithio, twristiaeth a lletygarwch.
... Oes gennych ddiddordeb yn y byd teithio a thwristiaeth ... Rydych am fynd ymlaen i gyflogaeth ... Oes gennych ddiddordeb hyfforddi ymhellach
Byddwch yn datblygu sgiliau sylfaenol y diwydiant, ynghyd â set fwy arbenigol o sgiliau. Unedau’r cwrs yw:
- Gwasanaeth Cwsmeriaid mewn Teithio a Thwristiaeth
 - Teithio a thwristiaeth y DU
 - Cyrchfannau Teithio a Thwristiaeth
 - Lletygarwch mewn Teithio a Thwristiaeth
 - Trefnu Digwyddiad
 - Profiad Gwaith mewn Teithio a Thwristiaeth
 - Cyflwyniad i Deithiau Tywysedig
 - Gwybod am Feysydd Awyr a Chwmnïau Awyr
 
Wrth gwblhau’r cwrs, byddwch yn cael y cymwysterau canlynol:
- Lefel 2 Diploma mewn Teithio a Thwristiaeth
 - Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
 - Gweithgareddau Sgiliau
 - Mathemateg a Saesneg Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
 
I gael mynediad at y cwrs, bydd angen isafswm o 4 cymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai cymhwyster TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf. Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU eu hystyried yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.
Mae’n rhaid i chi ddangos brwdfrydedd am y diwydiant teithio a thwristiaeth. Bydd angen i chi feddu ar hunan-gymhelliant, bod yn weithiwr caled, yn rhifog a meddu ar bersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.
Diploma Cyflwyniadol Lefel 3 NCFE mewn Teithio a Thwristiaeth
NCFE Lefel 3 Diploma Estynedig Teithio a Thwristiaeth.
Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Bydd angen i ddysgwyr llawn amser brynu gwisg a fydd yn costio rhwng £90 a £140, yn ogystal â thalu am deithiau ac ymweliadau a fydd yn costio tua £100.