Yn gryno
Bydd y Dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Pilio Croen yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch yn darparu technegau plicio croen.
...rhai sydd am gyflwyno triniaethau esthetig anfeddygol i'w busnes
...rhai sydd â chymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig
...rhai sy'n 18 oed a throsodd
Mae plicio cemegol, neu blicio croen, yn harneisio pŵer asidau naturiol a chynhwysion gweithredol sydd wedi'u profi'n glinigol i ddiblisgo'r croen, annog cynhyrchu colagen a thyfiant/trosiad celloedd croen i gael croen mwy disglair sy'n ymddangos yn iau. Fel cymysgedd o asidau ac ensymau, mae plicio croen yn diblisgo eich croen ac yn cychwyn trosiad celloedd; mae hyn yn golygu tynnu celloedd croen marw oddi ar yr haen uchaf ac annog tyfiant celloedd, gan ddadlennu’r croen mwy newydd a llyfnach o dan. Mae plicio hefyd yn annog creu colagen ac elastin i helpu lleihau llinellau a chrychau mân.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Iechyd a Diogelwch
- Cynllunio Triniaethau
- Dosbarthiad mathau Peel
- Darparu triniaethau Pilio Croen
- Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
- Ymgynghori ac Ôl-ofal
Asesir trwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a dyfernir Dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Pilio Croen i chi.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.