Yn gryno
Bydd y Cwrs Diploma Cenedlaethol Uwch (HNC) yn rhoi cyfle i chi astudio ar gyfer cymhwyster mewn Peirianneg Sifil a gydnabyddir gan y diwydiant a sefydliadau megis ICE, ISE, CIAT, RICE, CIOB, CIBSE a CIPHE.
…Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn Peirianneg Sifil, Strwythurau, Isadeiledd, Pobl a Lleoed
... Rydych eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol
...Rydych yn gweithio'n dda mewn astudiaethau ymarferol a damcaniaethol
Darperir y cymhwyster hwn gan Pearson Edexcel drwy fasnachfraint Prifysgol De Cymru a chyflwynir ef yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol yng Nghampws Casnewydd. Cyflwynir pob un o'n modiwlau gyda datblygiad cynaliadwy mewn golwg, gan ddarparu'r technegau a phrosesau diweddaraf mewn modiwlau graffigol sy'n seiliedig ar brosiectau.
Ymhlith y modiwlau mae:
- Deunyddiau Peirianneg Sifi
- Cyfathrebu Peirianneg
- Dadansoddi a Dylunio Strwythurol
- Deinameg Thermo-hylif
- Hydroleg Mathemateg mewn adeiladu
- Peirianneg Broffesiynol
Mae'r sesiynau yn gymysgedd o ddarlithoedd, stiwdios dylunio ac arbrofi ymarferol, yn seiliedig ar sefyllfaoedd prosiect go iawn a phroblemau efelychol.
Rydym yn cynnig yr HNC dros 1-2 blynedd, ac mae ganddo 6 modiwl i'w cwblhau. Ceir rhyddhad un diwrnod ar ddydd Mawrth ar gyfer myfyrwyr Rhan Amser a rhyddhad dau ddiwrnod ar ddydd Mawrth a dydd Iau i fyfyrwyr Llawnamser.
Gellir darparu ar gyfer sefyllfaoedd personol.
Wedi cychwyn y cwrs, rydym yn disgwyl ymrwymiad a diddordeb llawn ar gyfer eich astudiaethau, a byddwch angen astudio yn eich amser eich hun i gefnogi eich gwaith yn y coleg.
Os byddwch yn cyflawni eich HNC yn llwyddiannus, bydd modd i chi symud ymlaen i astudio ar gyfer HND mewn Peirianneg Sifil ar ein campws yng Nghasnewydd.
Mae llawer o'r rhai sy'n gweithio ar hyn o bryd ar y lefel reolaeth mewn cwmnïau adeiladu a pheirianneg sifil mawr wedi cymhwyso hyd at lefel HNC. Bydd cwblhau HNC ac o bosib HND yn dod â chyfleoedd i ennill gyrfa mewn rheolaeth, yn ogystal â dilyniant ac addysg yn y dyfodol.
Posibilrwydd arall o symud ymlaen o'r HNC a/neu'r HND yw manteisio ar ein cysylltiadau â Phrifysgolion lleol a thrafod opsiynau ar gyfer gradd BEng, neu BSE Eng mewn Peirianneg Sifil. Gellir defnyddio hyn fel llwybr i Beirianneg Strwythurol.
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen:
- 2 Lefel A neu gyfwerth,
- Gradd Teilyngdod mewn BTEC Lefel 3 ac uwch mewn Peirianneg Sifil/Adeiladu Derbynnir Diplomâu a NVQ Masnach gyda lefel briodol o brofiad
- Derbynnir NVQs a Diplomâu Crefft gyda lefel briodol o brofiad
- Cyfweliad gyda thiwtor i drafod amgylchiadau personol, ac asesu'r lefel o brofiad sydd gennych eisoes mewn maes cyffelyb.
- Cyflawni diploma atodol lefel 3. (Blwyddyn 1 diploma genedlaethol)
Byddwch yn elwa o gael mynediad i liniadur er mwyn ymgyfarwyddo â’r broses o Gynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur.
Argymhellir i chi brynu pren mesur graddfa, pensiliau/pinnau graffig ac offer ysgrifennu cyffredinol (cost oddeutu £150.00)
