Yn gryno
Mae’r HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) mewn Rheolaeth Adeiladu yn datblygu ar y wybodaeth a’r sgiliau a fagwyd wrth gwblhau’r HNC. Edrychir ar hanfodion y diwydiant adeiladu a chynllunio, iechyd a diogelwch a rheoli adnoddau dynol mewn adeiladu, rheoli sefydliadau adeiladu, ac ansawdd mewn adeiladu.
... Rydych eisoes wedi cwblhau ac wedi ennill cymhwyster HNC mewn adeiladu
... Rydych chi eisiau dilyn gyrfa ym maes adeiladu
Mae’r HND (Diploma Cenedlaethol Uwch) mewn Rheolaeth Adeiladu yn datblygu ar y wybodaeth a’r sgiliau a fagwyd wrth gwblhau’r HNC. Edrychir ar hanfodion y diwydiant adeiladu a chynllunio, iechyd a diogelwch a rheoli adnoddau dynol mewn adeiladu, rheoli sefydliadau adeiladu, ac ansawdd mewn adeiladu.
Mae’r Modiwlau a Astudir ar yr HND yn dibynnu ar lwybrau.
Y llwybrau a gynigir:
- Peirianneg Sifil
- Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu
- Rheoli Adeiladu
- Technoleg Saernïol
- Tirfesur
Technoleg Saernïol Tirfesur
- Mathemateg Peirianneg 1
- Dadansoddi a Dylunio Strwythurol 1
- Mecaneg Thermo-hylif
- Deunyddiau Peirianneg Sifil
- Peirianneg Proffesiynol
- Cyfathrebu Peirianneg
- Modelu Cysyniadol a Dylunio Cynaliadwy
Bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cymryd rhan mewn darlithoedd gan ddilyn dull astudio lle cewch eich rhyddhau chi am ddiwrnod.
- Wrth gofrestru, gwneud ymholiad ynghylch cyllid gan y llywodraeth drwy ein prentisiaethau uwch.
- Cwblhau Asesiadau sy’n seiliedig ar waith cwrs fydd yn cael ei ddosbarthu yn ystod ail flwyddyn eich cwrs
- Astudio astudiaethau achos prosiectau cyfredol, gan ddangos diddordeb realistig a chyfleoedd i gymryd rhan mewn sefyllfaoedd proffesiynol.
Ar ôl cwblhau’r HND yn llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i’r Brifysgol i ddatblygu graddau llawn.
Mae gennym gysylltiadau gwych gyda’n prifysgolion lleol a gallwn drefnu sesiynau blas, diwrnodau agored a thrafodaethau gyda thiwtoriaid yn y sefydliadau hynny.
Fel arall, byddai HND Lefel 5 yn gymhwyster delfrydol er mwyn dilyn gyrfa mewn tirfesur adeiladau, peirianneg safle, rheoli safle neu Dechnoleg Saernïol.
Byddwch angen cwblhau HNC yn llwyddiannus mewn Disgyblaet briodol neu Gymhwyster HND/Gradd sy’n cefnogi newid mewn gyrfa.
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel prentisiaeth genedlaethol uwch.