En

VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU (gradd E neu’n uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Mae'r sector therapi harddwch yn symud yn gyflym a bydd cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ystod ac ar ôl y rhaglen hyfforddi ddiddorol hon.

Dyma'r cwrs i chi os...

... ydych chi'n greadigol

...oes gennych ddiddordeb brwd mewn harddwch

Beth fyddaf yn ei wneud?

Ar y cwrs hwn byddwch yn ymdrin â phynciau gan gynnwys:

  • Dilyn iechyd a diogelwch o fewn y salon
  • Cyflwyniad i'r sector gwallt a harddwch
  • Darparu triniaeth dwylo sylfaenol
  • Darparu triniaeth traed sylfaenol
  • Dyletswyddau derbynfa’r salon
  • Gofal Croen
  • Crefft colur ffotograffig
  • Peintio wynebau thematig
  • Gweithio gydag eraill yn y sector gwallt a harddwch
  • Defnyddio colur sylfaenol
  • Creu delwedd gwallt a harddwch
  • Defnyddio celf ewinedd
  • Cyflwyno delwedd broffesiynol mewn salon

Cyflwynir y cwrs drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg wrth gefnogi myfyrwyr Therapi Harddwch Lefel 2
  • Gwaith grŵp
  • Teithiau ac ymweliadau

Yn ogystal â’ch cwrs, fe’ch anogir i gymryd rhan mewn:

  • Cystadlaethau o fewn y coleg
  • Gweithgareddau cymunedol
  • Dyddiau ymwybyddiaeth cynnyrch a thriniaeth mewn diwydiant

Asesiad

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu’r wybodaeth greiddiol.

Trwy astudio'r cwrs hwn byddwch yn cyflawni:

  • Diploma Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a chwrdd ag anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau ac arddangosiadau cymunedol)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd angen i chi fod yn hunanysgogol, yn weithgar, ac yn ymfalchïo yn eich ymddangosiad a bod â phersonoliaeth gyfeillgar.

Cynhelir pob dosbarth ar y campws ac efallai bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan 7.30yp.

Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs hwn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau, gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cod gwisg:

  • Gwisg Unffurf
  • Rhaid clymu gwallt yn ôl yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Dim tyllu: dim ond modrwy briodas y caniateir ei gwisgo yn y salon

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Mae manylion ar sut i archebu eich gwisg ysgol, ynghyd ag opsiynau talu cyflenwyr, ar gael gan eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw tua £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gallai costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu ac maent yn amodol ar newid.

Ble alla i astudio VTCT Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 1?

EFDI0635AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr