• Llawn Amser
  • Lefel 1/2

City & Guilds Tystysgrif mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 1/2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
1/2

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl sydd â diddordeb gyrfa mewn trin gwallt ac mae'n ddelfrydol os nad oes gennych lawer o brofiad neu sgiliau, os o gwbl. Bydd y cwrs hwn hefyd yn datblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â chleientiaid.

Mae'r cwrs a'r amserlen wedi'u cynllunio ar gyfer oedolion ac yn arbennig ar gyfer y rhai sydd â phlant yn yr ysgol.

...wrth eich bodd â thrin gwallt a harddwch
...rydych eisiau newid eich gyrfa
...rydych yn hoff o dorri gwallt eich ffrindiau a theulu ac eisiau ennill cymhwyster.

Mae bod yn driniwr gwallt yn dod â llawer o fanteision y bydd cynllunwyr gwallt cymwys yn sôn amdanynt wrthych. Os ydych chi'n ystyried dod yn driniwr gwallt, dyma'r prif resymau dros ei wneud:

  • Gallwch fod yn greadigol
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Bydd cael gyrfa mewn trin gwallt yn rhoi cyfle i chi fod yn hyblyg gyda'ch oriau gwaith
  • Byddwch yn gallu darparu amrywiaeth o wasanaethau
  • Mae'n foddhaus ac yn werth chweil

Dyluniwyd ein cwrs ar gyfer pobl sydd â diddordeb gyrfaol mewn trin gwallt, ac mae'n ddelfrydol os nad oes gennych lawer, neu ddim profiad neu sgiliau mewn trin gwallt. Byddwn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid wrth ddelio â chleientiaid a sgiliau cyflogadwyedd ar gyfer pob math o swyddi.

Byddwch yn dysgu am:

  • Ymgynghoriadau â chleientiaid
  • Sgiliau derbynfa
  • Defnyddio siampŵ
  • Chwythu sych
  • Y grefft o addurno gwallt
  • The art of dressing hair
  • Gwallt i fyny
  • Lliwio gwallt
  • Creu steil gwallt cyflawn gan ddefnyddio lliw

Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd, naill ai'n wythnosol neu fesul bloc. Gellir trefnu hyn naill ai’n annibynnol neu bydd eich tiwtoriaid yn eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad addas.

Darperir y cwrs drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Gwaith grwp
  • Gweithgareddau cyfoethogi megis teithiau, ymweliadau, siaradwyr gwadd ac arddangosiadau allanol.

Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein a fydd yn tanategu gwybodaeth greiddiol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • NVQ Lefel 1 mewn Trin Gwallt ac Unedau L2 mewn Trin Gwallt
  • Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Bydd angen i chi fod ag o leiaf 4 TGAU (gradd G neu’n uwch) gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu gymhwyster Lefel Mynediad priodol. Bydd ymgeiswyr heb yr isafswm TGAU yn cael eu hystyried ar sail profiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn weithgar, yn gyfeillgar a meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol. Bydd disgwyl i chi fynychu lleoliad gwaith yn ystod y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl ddarpariaeth yn cymryd lle ar y campws a bydd un noson yr wythnos pan fyddwch yn y coleg tan yn hwyr. Presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yw un o brif ofynion y cwrs hwn.

Mae presenoldeb a phrydlondeb ar gyfer pob sesiwn yn brif ofyniad ar gyfer y cwrs hwn.

NVQ Lefel 2 mewn Trin Gwallt neu gyflogaeth ar lefel prentis iau.

To enter the course, you’ll need a minimum of 3 GCSEs grade G or above to include: Maths/Numeracy and English/Welsh First Language or an appropriate Entry Level qualification. Applicants without the minimum GCSEs will be considered based on previous experience or other qualifications.

Cod Gwisg:

  • Rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon mewn salonau
  • Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
  • Ni ddylid gwisgo estyniadau gwallt a lliw ewinedd
  • Dim tyllau’r corff: modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn y salon

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £192, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd. Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFCE2397AB
Amser Dechrau
09:15
Hyd
1 flwyddyn
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Llawn Amser
Dyddiau
Monday to Friday

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy