En

VTCT Celfyddyd Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.


Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Yn gryno

Mae artistiaid colur yn dyfeisio ac yn rhoi colur i gyfleu ymdeimlad o ddrama, p’un a yw ar gyfer ffilm, theatr, ffotograffau neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol. Bydd cymhlethdod a’r math o gysyniad yn amrywio yn dibynnu ar y cynhyrchiad a'r cymeriad, ond gall artistiaid colur da gyfleu ystod eang o edrychiadau ar draws amrywiaeth o genres.

Wrth weithio fel artist colur, ceir amrywiaeth o lwybrau dilyniant. Mae natur lawrydd y proffesiwn yn golygu y gallwch symud rhwng bod yn gynorthwyydd colur dan hyfforddiant, artist colur, prif artist colur a rolau dylunio, yn dibynnu ar eich profiad.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddyheadau o fod yn artist colur
... Oes gennych ddiddordeb arbennig mewn theatr neu ffilm
... Ydych chi’n greadigol a gweithgar

Beth fyddaf yn ei wneud?

Fel artist colur, rydych chi’n gyfrifol am roi colur ar bobl a steilio gwallt ar gyfer pobl sy’n ymddangos mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, sesiynau ffotograff neu ddigwyddiadau byw fel cyngherddau, dramâu neu sioeau ffasiwn. Mae trin gwallt yn chwarae rhan fawr yn y cwrs hwn ac mae’r diwydiant yn cyflogi unigolion amryddawn sy’n gallu rhoi colur ymlaen a steilio gwallt mewn un sesiwn.

Eich swydd fyddai creu’r edrychiad mae’r person ei angen ar gyfer y math o gynhyrchiad neu ddigwyddiad.

Byddwch yn dysgu technegau trin gwallt sylfaenol a sgiliau colur penodol i’r cyfryngau gan gynnwys:

  • Colur ar gyfer y llwyfan
  • Heneiddio ar gyfer y llwyfan
  • Effeithiau arbennig
  • Lleoliad gwaith
  • Gwneud wig
  • Trin gwallt sylfaenol
  • Defnyddio darnau gwallt
  • Colur ffasiwn
  • Colur ffotograffig
  • Colur cyfnod
  • Peintio wynebau
  • Dylunio celf corff
  • Darparu celf ewinedd

Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac aseiniadau ar thema, portffolio o waith a chwestiynau prawf amlddewis. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Lefel 2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Saesneg a Mathemateg (os nad ydych wedi ennill gradd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael mynediad i’r cwrs, bydd angen i chi feddu ar o leiaf 3 chymhwyster TGAU, gradd D neu uwch, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 perthnasol A meddu ar ddawn greadigol neu dystiolaeth o waith celf.


Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr nad ydynt yn meddu ar isafswm y cymwysterau TGAU yn seiliedig ar brofiad blaenorol neu gymwysterau eraill.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Lefel 3 mewn Colur Theatrig ar Cyfryngau,  cyflogaeth neu addysg bellach.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cod gwisg ac ymddangosiad yn agwedd bwysig iawn ar y cwrs hwn ac rydym yn gofyn i chi gadw at y canlynol:

  • Mae’n rhaid gwisgo tiwnig gyda throwsus ac esgidiau du synhwyrol yn y salonau
  • Rhaid i wallt gael ei glymu yn daclus yn ôl o'r wyneb a rhaid gwisgo colur er mwyn creu delwedd broffesiynol
  • Dim tyllau corff gweladwy
  • Modrwy briodas yn unig a ganiateir ei gwisgo yn yr ystafell colur.

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy, cost i'w gadarnhau.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio VTCT Celfyddyd Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2?

CFDI0197AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr