• Llawn Amser
  • Lefel 2

City & Guilds Diploma mewn Goginio Proffesiynol Lefel 2

Mae ceisiadau ar gyfer cyrsiau amser llawn 2025/26 bellach wedi cau.

Bydd ceisiadau ar gyfer 2026/27 yn agor ym mis Tachwedd 2025.

Maes Pwnc
Arlwyo a Lletygarwch
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Lefel
2

Yn gryno

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol.

... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth am goginio proffesiynol
... Rydych eisiau gweithio mewn amgylchedd prysur a heriol
... Rydych eisiau dechrau gyrfa fel pen-cogydd

Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddewis gyrfa heriol, ond hynod gwerth chweil, sy'n tyfu'n gyflym.

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol. Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i'r cwrs Coginio Proffesiynol Lefel 3

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych eisiau gweithio fel pen-cogydd proffesiynol. Byddwch yn datblygu ystod eang o sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o safon uchel.

Byddwch yn astudio:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Technegau coginio modern
  • Stociau, cawliau a sawsiau
  • Ffrwythau a llysiau
  • Cigoedd ac offal
  • Dofednod
  • Pysgod a physgod cregyn
  • Reis, pasta, grawn a phrydau wyau
  • Melysfwyd a phwdinau poeth ac oer a chynnyrch wedi eu pobi
  • Gwasanaeth bwyty - gwasanaeth bwyd, diod a bar, gan gynnwys sgiliau flambé a gwneud coctels
  • Sgiliau barista coffi

Byddwch yn dysgu drwy:

  • Sesiynau 'byw' ym mwyty a chegin y coleg, yn paratoi, coginio a gweini ar gyfer y cyhoedd
  • Sesiynau ymarferol i feithrin sgiliau ar gyfer y gegin a'r bwyty
  • Sesiynau ymarferol i feithrin sgiliau ar gyfer y gegin a'r bwyty
  • Dosbarthiadau Meistr Academi Fforwm y Cogyddion (un y mis)

Mae Campws Crosskeys hefyd yn cynnig Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol fel cymhwyster ychwanegol a byddwch hefyd yn cael profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith realistig yng nghegin a bwyty'r campws, lle byddwch un ai'n coginio neu yn gweini ar gyfer y cyhoedd.

Bydd y cwrs hwn yn adeiladu ar eich sgiliau gwasanaeth bwyty a choginio o Lefel 1 ac yn rhoi'r cyfle ichi gymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Cystadlaethau gwasanaeth bwyty a chelfyddydau coginio - Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau'r Byd
  • Cystadlaethau coginio mewnol
  • Cystadlaethau coginio cenedlaethol eraill
  • Digwyddiadau Fforwm y Cogyddion
  • Ymweliadau â chynhyrchwyr bwyd lleol
  • Teithiau i sioeau bwyd

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios, cyflwyniadau ac arddangosiadau, a byddwch yn ennill:

  • Coginio Proffesiynol Lefel 2
  • Rhaglen Sgiliau Cyfoethogi Creadigol
  • Sgiliau Gwasanaeth Bwyd a Diod Proffesiynol Lefel 1
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg
  • Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Mae cymhwyster Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol a/neu brofiad o weithio mewn cegin broffesiynol yn rhagofyniad ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn gallu gweithio mewn tîm. Bydd gennych bersonoliaeth gyfeillgar a bydd gofyn i chi fynychu lleoliad gwaith bob wythnos.

Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch neu Brentisiaeth, neu gyflogaeth fel pen-cogydd yn y diwydiant arlwyaeth a lletygarwch.

Lleiafswm o 4 TGAU gradd D neu’n uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol mewn maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys gradd TGAU mewn Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.

Bydd gofyn ichi brynu offer llawn, gwisg cogydd a gwisg y bwyty a fydd yn costio tua £230.00, a bydd angen £50.00 ar gyfer manion.

Catering and Hospitality student at event waitressing

Campws Crosskeys

Côd y Cwrs
CFDI0127AA
Hyd
1 flwyddyn
Dull Astudio
Llawn Amser

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2025

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Darganfod mwy
Student ambassador with a campus tour sign

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
10yb - 12.30yp
Darganfod mwy