En

City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerbydau Modurol

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.

4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.

Yn gryno

Yn y cwrs Lefel 1 hwn, ceir dealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant modurol. Mae’n berffaith ar gyfer dysgwyr sydd eisiau gweithio ym maes gwasanaethu, atgyweirio a chynnal a chadw cerbydau a cherbydau ysgafn.

Os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus, gall arwain at gwrs Diploma Estynedig mewn Peirianneg Cerbydau Modur, Rhaglen Peirianneg Uwch neu gwblhau prentisiaeth yn y diwydiant, ar ôl gorffen astudiaeth bellach.

Dyma'r cwrs i chi os...

...Mae gennych ddiddordeb mawr mewn Peirianneg Fodurol.

...Hoffech weithio yn y sector Cerbydau Modur.

...Hoffech weithio mewn garej neu ddelwriaeth.

...Rydych yn mwynhau datrys problemau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r cwrs yn cynnwys cyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol.

Byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau sy'n seiliedig ar sefyllfaoedd realistig a wynebir mewn gweithle. Byddwch yn astudio unedau, gan gynnwys:

  • Byd Peirianneg Cerbydau Modur
  • Egwyddorion Cerbydau Trydan
  • Archwilio systemau cerbydau
  • Iechyd a Diogelwch Peirianneg Cerbydau Modur
  • Peirianneg Cynnal a Chadw
  • Deunyddiau Peirianneg
  • Dylunio ac Adeiladu Cylched Drydanol
  • Dehongli a Defnyddio Gwybodaeth am Wasanaeth
  • Mathemateg a Gwyddoniaeth ar gyfer Peirianneg
  • Gwyddoniaeth Drydanol a Mecanyddol ar gyfer Peirianneg

Cewch eich asesu drwy:

  • Arholiadau
  • Gwaith cwrs
  • Aseiniadau
  • Portffolio
  • Asesiadau ymarferol neu mewn labordy

Wedi cwblhau'r cwrs, byddwch wedi cwblhau:

  • Diploma Cyntaf Lefel 1 mewn Peirianneg Cerbydau Modur
  • Paratoi ar gyfer Cyflogaeth (gweler gwefan Coleg Gwent am fanylion)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (Uwchsgilio Mathemateg a Saesneg i radd C neu uwch, fydd yn cael ei ymgorffori yn yr amserlen addysgu)

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Cwblhau cwrs Lefel Mynediad 3 yn llwyddiannus, neu ddyfarniad Lefel 1 drwy raglen Cerbydau Modur neu Beirianneg.

4 TGAU - 2 TGAU gradd D (Mathemateg a Saesneg yn ddelfrydol) ac o leiaf 2 TGAU gradd D-G.

Bydd angen i chi fod yn:

  • rhifog a chreadigol a gyda diddordeb amlwg mewn Peirianneg Fodurol
  • gallu cymell eich hun, yn gweithio’n galed, yn brydlon ac ymroddedig

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg Cerbydau Modur.
  • Diploma Lefel 2 mewn Gosod Cerbydau Cyflym
  • Symud ymlaen at brentisiaeth neu gyflogaeth addas.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol:

  • hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith
  • Byddwch angen eich offer ysgrifennu eich hunan, h.y. ffolderi, cloriau i rannu pynciau, beiros, pensiliau, pren mesur a Chyfarpar Diogelu Personol (esgidiau trwm ac oferôls)

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Lefel 1?

NFDI0112AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr