City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Gradd Teilyngdod mewn Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn a TGAU gradd D neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a’i fwriad yw bodloni elfen ddamcaniaethol y cwrs Lefel 2 VCQ mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn. Mae’n bodloni gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Uwch Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn).
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych wedi cwblhau Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Gallwch weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff y rhaglen Lefel 2 ei rhannu’n bump o adrannau technegol, yn cynnwys y pedwar prif faes a ddynodir gan y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a ddatblygwyd gan IMI:
- Technoleg siasis
- Technoleg injans
- Technoleg trawsyrru
- Technoleg drydanol ac electronig
- Agweddau cyffredinol e.e. iechyd a diogelwch, agweddau cyfreithiol a gofynion sefydliadol
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, aseiniadau, gwaith cwrs, portffolios ac asesiadau ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 3 IMI mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
- 4 TGAU gradd D neu uwch, i gynnwys Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf); neu
- Diploma lefel 1 addas a TGAU gradd D neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg (neu Gymraeg iaith gyntaf)
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
- Prentisiaeth addas
- Gwaith yn y diwydiant fel technegydd
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0035AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr