En

Cynnal a Chadw Cerbydau i Fenywod

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£60.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
10 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Gwener
Amser Dechrau

Amser Dechrau
10:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
13:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Os ydych chi’n awyddus i gynnal a chadw eich car eich hun neu gerbydau eraill, mae’r cwrs hwn yn fan cychwyn gwych. Byddwch chi’n dysgu’r egwyddorion sylfaenol am gerbydau modur mewn amgylchedd gweithdy hamddenol a chyfeillgar.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un sy’n awyddus i weithio ar geir a/neu gerbydau eraill.

... unrhyw un sy’n dymuno dysgu sut i gynnal a chadw ei gar ei hun.

... unrhyw un sy’n dymuno adnewyddu ceir fel hobi neu ddatblygu sgiliau ar gyfer gyrfa newydd.

Cynnwys y cwrs

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig a meddu ar ddiddordeb mewn cerbydau modur. Cewch gyfle i ddysgu am yr holl systemau sy’n rhan o gerbydau modur clasurol a modern gan gynnwys:

• Systemau brecio

• Systemau crogiant

• Systemau tanwydd

• Teiars

• Systemau trawsyriant

• Systemau aerdymheru

• Systemau trydanol gan gynnwys ABS a SRS

• Gwasanaethu

• Systemau taniad

• Glanhau a gofal cerbyd

• Egsosts

• Systemau rheolaeth injan

• Addasiadau cerbyd

Cewch eich asesu trwy asesiadau ymarferol parhaus a chyflwynir tystysgrif coleg i chi ar gwblhau’r cwrs. Ar ôl hynny, gallwch chi symud i gwrs amser llawn neu gwrs rhan-amser ar Lefel Mynediad neu Lefel 1.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn ystod y cwrs hwn, bydd angen Cyfarpar Diogelu Personol addas megis esgidiau a throswisg arnoch chi.

Ble alla i astudio Cynnal a Chadw Cerbydau i Fenywod?

NPCE2115AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 10 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr