En

BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Chwaraeon Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar elfen ymarferol. Bydd y cwrs hwn yn eich helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth er mwyn dilyn gyrfa yn y maes hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

...mae gennych ddiddordeb amlwg mewn chwaraeon ac iechyd corfforol

...rydych eisiau cwrs ymarferol

...rydych eisiau datblygu gwybodaeth er mwyn dilyn gyrfa yn y maes hwn

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn astudio modiwlau megis:

  • Anatomi a Ffisioleg mewn Chwaraeon
  • Hyfforddi Ffitrwydd a Rhaglennu ar gyfer Iechyd, Chwaraeon a Llesiant
  • Datblygiad Proffesiynol yn y Diwydiant Chwaraeon
  • Arweinyddiaeth Chwaraeon
  • Trefnu Digwyddiadau Chwaraeon
  • Cynnal Profion Ffitrwydd
  • Perfformiad Chwaraeon Ymarferol
  • Hyfforddi ar gyfer Perfformiad
  • Dulliau ymchwil mewn Chwaraeon
  • Datblygu a Darparu Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol
  • Archwilio Busnes yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Actif
  • Caffael Sgiliau mewn Chwaraeon
  • Profiad Gwaith mewn Hamdden Actif
  • Rheoli Anafiadau Chwaraeon
  • Seicoleg Chwaraeon
  • Rheolau, Rheoliadau a Gweinyddu mewn Chwaraeon
  • Sgiliau Technegol a Thactegol mewn Chwaraeon
  • Dadansoddiad Perfformiad Chwaraeon
  • Egwyddorion ac Ymarferion ar gyfer Gweithgareddau Mentrus Awyr Agored
  • Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer Gweithgareddau Mentrus Awyr Agored
  • Ymarfer Corff ar gyfer Grwpiau Penodol
  • Ymarfer Corff, Iechyd a Ffordd o Fyw
  • Materion Cyfredol mewn Chwaraeon
  • Rheoli Hamdden
  • Gweithrediadau Canolfan Hamdden

Byddwch yn cael y cyfle i astudio Tystysgrif mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon a Thystysgrif mewn Hyfforddi Ffitrwydd.

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol, tasgau a reolir, arholiad allanol, cyflwyniadau, portffolio o waith a goruchwyliaeth. Wedi i chi ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Diploma Sylfaen Cenedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon
  • Cymwysterau ategol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg (os nad oes gennych Radd C neu uwch ar lefel TGAU)
  • Tystysgrif SLQ mewn Arweinyddiaeth Chwaraeon
  • Tystysgrif Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddi Ffitrwydd

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar Radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.

Mae cyfranogiad ymarferol yn hanfodol wrth gwblhau'r cwrs hwn. Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc â'r gallu i gymell eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd cwblhau’r Diploma Sylfaen Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich caniatáu i fynd ymlaen i'r ail flwyddyn a chwblhau'r Diploma Estynedig llawn.

Oddi yno, mae’r llwybrau dilyniant yn cynnwys cyrsiau ar lefel Prifysgol a chyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden e.e. hyfforddi cymunedol, y diwydiant ffitrwydd a datblygu chwaraeon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae costau ychwanegol yn cynnwys hyd at £82.50 ar gyfer cit, £50.00 ar gyfer tripiau/Cofrestru gyda DofE/ffioedd Gwersylla DofE.

Bydd dysgwyr hefyd yn cael cyfle i ymgymryd ag ystod o deithiau a digwyddiadau addysgol e.e. Prifysgol Metropolitan Caerdydd - dosbarthiadau cryfder a chyflyru, Prifysgol De Cymru - profi ffitrwydd ac iechyd. Mae gan Barth Dysgu Blaenau Gwent amrywiaeth o dimau sy’n chwarae mewn ystod o gynghreiriau gan gynnwys rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd a phêl-fasged.

Ar gyfer chwaraewyr Academi Rygbi Menywod y Dreigiau, mae eich amserlen wedi'i threfnu o amgylch Academi'r Dreigiau, ac rydych yn cael eich cludo o safle i safle er mwyn cymryd rhan yn y ddarpariaeth. Efallai y byddwch angen trefnu eich cludiant eich hun adref o Gampws Crosskeys ar gyfer rhai o'r gemau.

Mae gan bob dysgwr gyfle i wneud cais am gyllid Erasmus ac ymweld â gwlad Ewropeaidd fel rhan o'u hastudiaethau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Sylfaen Cenedlaethol mewn Chwaraeon Lefel 3?

EFBE0023AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr