En

BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

Yn gryno

Byddwch yn dysgu i ddangos sut y gellir cyfleu syniadau, teimladau ac ystyron o fewn y gwahanol feysydd o’r Cyfryngau drwy astudio’r cwrs hwn.

Dyma'r cwrs i chi os...

...mae gennych allu mewn maes creadigol

...mae gennych ddawn greadigol wych

...rydych eisiau gyrfa yn defnyddio eich sgiliau celf a dylunio

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae’r Cyfryngau’n parhau i fod yn opsiwn dymunol i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd creadigol 'traddodiadol', o fewn ffilm, teledu, radio a newyddiaduriaeth. Fodd bynnag, mae'r rhyngrwyd wedi gweld ffrwydrad o rolau newydd cyffrous yn ymddangos.

Byddwch yn archwilio amrywiaeth o syniadau ac adnoddau perthnasol sy’n ymwneud â’r cyfryngau a ffilm a chreu ymatebion ymarferol iddynt, gan arddangos dealltwriaeth o wahanol arddulliau, genres a thraddodiadau. Bydd llyfrau braslunio/llyfrau gwaith/cyfnodolion yn sail i’ch gwaith prosiect a bydd pwyslais ar ffilmio/ golygu a chynhyrchu cyfryngau.

Mae tiwtoriaid yn gyfredol ac yn berthnasol wrth iddynt barhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a'r ethos proffesiynol a'r profiad galwedigaethol hynny fydd yn gwneud yr holl wahaniaeth i'ch astudiaethau.

Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth gan ddefnyddio rhifau, cynllunio a gwaith tîm.

Ymhlith modiwlau Cyfryngau mae:

  • Hysbysebu
  • Dylunio Pecyn
  • Graffeg Gyfrifiadurol
  • Technegau Amlgyfryngol

Byddwch yn cael eich asesu drwy gwblhau gwaith cwrs.

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:

  • Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol
  • Gweithgareddau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
  • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af

NEU

Cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, bydd cyfle i chi symud ymlaen at addysg uwch neu i weithio mewn diwydiannau megis Teledu a Ffilm, Ffotograffiaeth, Newyddiaduriaeth a Hysbysebu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3?

CFBE0036AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr