Yn gryno
Mae'r cwrs 2 flynedd newydd ac arloesol hwn yn eich helpu i ddysgu beth sy'n eich diddori chi fwyaf ym maes celf a dylunio a datblygu rhai o'r sgiliau sylfaenol sy'n sail i'r disgyblaethau creadigol.
... ydych chi'n greadigol
... ydych eisiau datblygu sgiliau ymarferol
... ydych chi am gael cwrs sy'n adlewyrchu profiad diwydiant
Rydym yn gyffrous i fod yn ganolfan gymeradwy ar gyfer corff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL). Bydd y cwrs hwn yn eich annog a'ch ymestyn i gyfathrebu'n weledol, meddwl yn gysyniadol a datblygu technegau datrys problemau ac ymarferol.
Gyda mynediad at weithdai a stiwdios dylunio gyda'r holl gyfleusterau proffesiynol, byddwch yn dysgu drwy arbrofi gan ddefnyddio ystod eang o brosesau 2D, 3D a digidol. Bydd y prosiect yn eich helpu i ennill dealltwriaeth gyd-destunol o gelf a dylunio a'ch cefnogi i wneud a mynegi eich taith bersonol a dehongliadau. Drwy gydol eich taith byddwch yn cael eich addysgu a'ch cefnogi gan diwtoriaid gyda sgiliau, gwybodaeth a phrofiad helaeth o ymarfer diwydiannol ac addysg o fewn y celfyddydau creadigol. Drwy gydol y flwyddyn, byddwch yn cael eich annog i ddatblygu cysylltiadau a diddordebau personol. Yn ystod tymor 3, byddwch yn negodi prosiect a gychwynnwyd gennych chi, gan eich galluogi i adnabod maes diddordeb mwy arbenigol, megis ffasiwn a thecstilau, celf gain, dylunio 3D, Gwneud Printiau, Cerameg, Lluniadu Digidol neu Ffotograffiaeth.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs a, phan fyddwch wedi ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Blwyddyn 1: Diploma Lefel 3 UAL mewn Celf a Dylunio
- Blwyddyn 2: Diploma Estynedig Lefel 3 UAL mewn Celf a Dylunio
- Cymwysterau cynorthwyol priodol er mwyn lledu eich sgiliau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
I gofrestru ar y cwrs hwn, mae angen i chi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn un ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Wedi i chi gwblhau'r diploma un flwyddyn, byddwch yn cael y cyfle i symud ymlaen i'r ail flwyddyn (Estynedig), gallwch ganolbwyntio ar arbenigedd o'ch dewis, yn ogystal â gweithio ar draws y cyfryngau a gweithdai a fydd yn eich galluogi i ddewis eich llwybr gyfra mewn ffordd wybodus.
Dilyniant i Addysg Uwch ar gwblhau blwyddyn dau yn llwyddiannus. Yma yn Coleg Gwent, rydym yn cynnig ystod o gyrsiau Addysg Uwch ar lefel Gradd a Lefel Baglor yn y Celfyddydau ym meysydd creadigol Darlunio, Artist Dylunydd Gwneuthurwr a Ffotograffiaeth.
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Ein nod yw ei gwneud hi mor hawdd ag sy'n bosibl i sicrhau eich lle ar eich rhaglen ddelfrydol. Rydym yn eich croesawu i'ch nosweithiau agored a sesiynau blasu (gweler y wefan ar gyfer dyddiadau cyfredol), gan eich galluogi i brofi gweithdai creadigol ac ymweld â'n hamgylchedd creadigol gyda'r holl gyfleusterau.
Llwybr Ffotograffiaeth
Yn ogystal â’n darpariaeth Celf a Dylunio, rydym wrth ein boddau’n gallu cynnig llwybr Ffotograffiaeth penodol unwaith yn rhagor. Bydd hyn yn caniatáu dysgwyr sy’n ymddiddori’n frwd mewn ffotograffiaeth y cyfle i ganolbwyntio’n drylwyr ar ddatblygu eu sgiliau camera a stiwdio ymarferol drwy weithdai ac aseiniadau, cynhyrchu syniadau ffotograffig, astudiaethau hanesyddol a damcaniaethol drwy ddarlithoedd a thrafodaethau agored, a gwella hyder a sgiliau cymdeithasol drwy friffiau byw, adborth parhaus ac adolygiad cymheiriaid.
Bydd y llwybr hwn yn cynnig:
- Gweithdai traddodiadol a digidol, gan ddefnyddio ein hoffer camera proffesiynol o'r radd flaenaf
- Gweithdai portreadu a bywyd llonydd yn ein stiwdio ffotograffig arbennig o’r radd flaenaf
- Gweithdai ar leoliad yn ystod teithiau maes o fewn y dirwedd Gymreig brydferth
- Darlithoedd a thrafodaethau academaidd ar ffotograffiaeth fodern a hanesyddol
- Cyfle i drafod materion cyfoes ac ymateb mewn modd ffotograffig
- Ymweliadau ag orielau ac amgueddfeydd, yn ogystal â siaradwyr gwadd a gweithdai