OCR Diploma Technegol Caergrawnt mewn Celfyddydau Perfformiadol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 4 TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg.
Yn gryno
Bydd y cwrs yma yn eich cyflwyno i fyd perfformio.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddiddordeb mewn perfformio a gweithio yn y diwydiant celfyddydau perfformiadol
... Ydych eisiau cwrs ymarferol
... Ydych eisiau datblygu sgiliau mewn pynciau yn ymwneud â drama
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn manteisio ar ein theatr o’r radd flaenaf a mannau ymarfer pwrpasol. Mae’r opsiynau astudio yn cynnwys:
- Y busnes celfyddydau perfformiadol
- Dyfeisio, sgriptio a pherfformio dramâu
- Actio
- Symud
- Canu
- Theatr gerdd
Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus, trwy aseiniadau ymarferol yn bennaf, gyda gwaith ysgrifenedig yn ategu’r sgiliau a ddatblygir gan fyfyrwyr actio. Bydd eich gwaith yn cael ei gymedroli yn allanol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformiadol
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i hybu eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs yma, bydd angen o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol gan gynnwys naill ai TGAU Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo. Dylai fod gennych ddiddordeb mewn drama a bod â rhywfaint o brofiad o berfformio sylfaenol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau’r Diploma Lefel 2 ar Lefel Teilyngdod yn llwyddiannus, gallwch wneud cais am y Diploma Estynedig Celfyddydau Perfformiadol neu astudiaeth Lefel 3 arall.
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o’r gofynion mynediad, bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn brofi, lle byddwch yn cymryd rhan mewn clyweliad.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBD0069AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr