En

VTCT Gwobr mewn Angenrheidiol Croen Lefel 4

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£565.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
19 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
8 wythnos

Yn gryno

Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 4 mewn nodwyddo croen yn gymhwyster therapi uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 3 sydd yn 18 oed neu'n hŷn â’r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau. Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau nodwyddo croen.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

  • y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
  • y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig
  • y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

 

Cynnwys y cwrs

Mae nodwyddo croen yn weithred gosmetig a ddefnyddir i annog cynhyrchu colagen drwy ddefnyddio dyfais ficro-nodwyddo drachywir o'r radd flaenaf a all helpu i wella difrod dwfn i'r croen heb achosi rhagor o greithio neu anghysur. Bydd yn cryfhau ac yn atgyfnerthu haenau dyfnach gan arwain at ganlyniadau adferol pellach ar yr arwyneb megis llinellau a chrychau mân, gostyngiad mewn cochni, teimlad esmwyth i'r croen a phylu gwelededd mandyllau, acne, pigmentiad a namau eraill.

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Mesurau Iechyd a Diogelwch i'w hystyried
  • Cynllunio Triniaethau
  • Cynhyrchion ac offer nodwyddo Croen Cosmetig
    • Cymhwyso Triniaethau Ymarferol
    • Cyngor cyn ac ar ôl triniaeth
    • Anatomeg, ffisioleg a phatholeg

    Cynhelir asesiadau drwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill Dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen.

    Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:

    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
    • Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)

Gofynion Mynediad

Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Noder, o 2024 ymlaen, ei fod yn ofynnol yn ôl awdurdodau lleol i chi gwblhau hyfforddiant gorfodol er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer. Mae'r cwrs hyfforddi gofynnol mewn Rheoli Heintiau, sydd yn para un diwrnod, ar gael i chi yn Coleg Gwent.

Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.

Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg 

cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.

Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.

Manteision Masnachol a Busnes

Gall costau triniaeth Nodwyddo Croen amrywio gan ddibynnu ar yr ardal sy'n cael ei thrin, y cynhyrchion a ddefnyddir a'r cyfuniad o foddion megis plicio a therapi golau LED (Amledd Radio). Byddai triniaethau yn dechrau o tua £150 y sesiwn ac mae cleientiaid yn debygol o angen 3-5 sesiwn i drin pryderon uwch megis creithio oherwydd acne.

Ble alla i astudio VTCT Gwobr mewn Angenrheidiol Croen Lefel 4?

CPAW0583AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 19 Tachwedd 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr