• Rhan Amser
  • Lefel 3

City & Guilds Tystysgrif mewn Barbro Lefel 3

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Maes Pwnc Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol
Dyddiad Cychwyn
7 Medi 2026
Hyd
32 wythnosau
Dull Astudio
Rhan Amser
Lefel
3
Ffioedd
£505.00 Gall gostyngiadau fod ar gael
£355.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£150.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Yn gryno

Mae’r Dystysgrif mewn Barbro Lefel 3 yn gymhwyster sydd wedi’i ddylunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol i lefel uwch trwy amrywiaeth o dechnegau. Mae’n berffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno dod yn uwch steilyddion gan dorri gwallt dynion yn greadigol a gwaith cywrain arbenigol sy’n ofynnol ar gyfer torri blew ar yr wyneb.

Dyma'r cwrs i chi os...
… rydych chi eisoes yn meddu ar gymhwyster Trin Gwallt neu Farbro a hoffech chi ddod yn Uwch Steilydd
… rydych chi’n meddu ar brofiad o dorri gwallt dynion
… rydych chi’n driniwr gwallt profiadol ac mae angen ennill cymwysterau i symud eich gyrfa yn ei blaen
… rydych chi’n dymuno newid gyrfa.

Diben y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau ymarferol i safon alwedigaethol uchel iawn i’ch galluogi chi i gyflawni eich gwasanaethau salon eich hun.
Cynhelir y cwrs dros 15 awr yr wythnos ac mae’n cynnwys technegau sylfaenol gan gynnwys unedau gorfodol ac unedau dewisol.
Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:
  • Gwaith a arsylwyd/Gwaith a aseswyd gyda chleientiaid
  • Gweithdrefnau monitro i reoli gweithrediadau yn y gwaith yn ddiogel
  • Darparu gwasanaethau cynghori ar drin gwallt
  • Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau.
  • Arholiadau aml-ddewis ar-lein
Mae’r unedau dewisol yn cynnwys:
  • Lliwio gwallt gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau
  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes
  • Cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo
  • Cynnal ymgynghoriadau i adnabod anghenion
  • Datblygu technegau torri/clipio i gyflawni’r wedd ddelfrydol
  • Defnyddio cynhyrchion a chyfarpar
  • Iechyd a Diogelwch yn y salon
  • Darparu gwasanaeth ôl-ofal addas
  • Pyrmio a niwtraleiddio gwallt
  • Hyrwyddo a gwerthu cynhyrchion a gwasanaethau i gleientiaid
Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch chi’n datblygu gwybodaeth gadarn am fonitro iechyd a diogelwch wrth weithio yn y diwydiant barbro. Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am y sgiliau ymarferol a ddysgir drwy gydol y cymhwyster hwn.

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, disgwylir i chi brynu’r cit perthnasol, gan ein cyflenwr cymeradwy, sy’n costio oddeutu £283 yn amodol ar adolygu/cynyddu pris. Os ydych chi eisoes wedi prynu’r cit trwy’r cwrs Lefel 2, yna bydd angen i chi brynu’r cit atodol yn unig, sy’n costio oddeutu £67.
I adlewyrchu disgwyliadau’r diwydiant, bydd gofyniad i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent i’w harchebu gan ein cyflenwr cymeradwy. Gallwch chi gael manylion am sut i archebu eich gwisg a dewisiadau talu’r cyflenwr gan eich Pennaeth Ysgol, eich Darlithydd, neu’ch Technegydd. Mae’r pris oddeutu £45, yn amodol ar gynnydd mewn prisiau.
Gall costau ychwanegol godi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.
Mae'r holl gostau wrthi’n cael eu hadolygu a gallant newid.

Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs, byddwch chi’n symud ymlaen i’r cymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt Menywod neu redeg eich salon eich hun neu gael arbenigedd mewn mathau o wallt neu driniaethau trin gwallt.
Efallai yr hoffech chi feddwl am y cymwysterau eraill hyn hefyd:
Tystysgrifau a Diplomau Lefel 3 mewn Trin Gwallt – diweddaru eich sgiliau a’ch technegau a dysgu rhai newydd
Tystysgrif/Diploma Proffesiynol Uwch mewn Rheolaeth Salon Dechnegol – y sgiliau i redeg eich salon trin gwallt eich hun
Dyfarniad mewn Atal Dermatitis trwy Gyffyrddiad – y technegau i ddiogelu cwsmeriaid rhag heintiau.

Bydd angen i chi feddu ar naill ai o leiaf cymhwyster Lefel 2 yn unrhyw ddisgyblaeth trin gwallt neu byddwch chi wedi ennill profiad o weithio mewn siop farbro heb feddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol.

Beauty student in makeup

Parth Dysgu Blaenau Gwent

Côd y Cwrs
EPCE3854AA
Amser Dechrau
13:00
Hyd
32 wythnosau
Amser Gorffen
16:00
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Dydd Llun

Ffioedd: £505.00

£355.00 Ffioedd Dysgu

Gostyngiad o 50% ar gael i ddysgwyr sy’n derbyn Budd-dal sy'n Seiliedig ar Brawf Modd.

Gostyngiad o 100% ar gael i unigolion dan 19, yn ddibynnol ar addasrwydd cwrs.

£150.00 Ffioedd Eraill

Yn cynnwys cofrestriadau, ffioedd arholiadau ac unrhyw ddeunyddiau cwrs.

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni ynglŷn â'n cynlluniau talu.
Sylwch, mae'r holl ffioedd a hysbysebir am flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod.

Gall gostyngiadau fod ar gael

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy