Yn gryno
Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 4 mewn nodwyddo croen yn gymhwyster therapi uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 3 sydd yn 18 oed neu'n hŷn â’r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau. Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau nodwyddo croen.
- y rheini sydd am gyflwyno triniaethau anfeddygol i'w busnes
- y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 3 neu'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Therapïau Esthetig
- y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.
Mae nodwyddo croen yn weithred gosmetig a ddefnyddir i annog cynhyrchu colagen drwy ddefnyddio dyfais ficro-nodwyddo drachywir o'r radd flaenaf a all helpu i wella difrod dwfn i'r croen heb achosi rhagor o greithio neu anghysur. Bydd yn cryfhau ac yn atgyfnerthu haenau dyfnach gan arwain at ganlyniadau adferol pellach ar yr arwyneb megis llinellau a chrychau mân, gostyngiad mewn cochni, teimlad esmwyth i'r croen a phylu gwelededd mandyllau, acne, pigmentiad a namau eraill.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Mesurau Iechyd a Diogelwch i'w hystyried
- Cynllunio Triniaethau
- Cynhyrchion ac offer nodwyddo Croen Cosmetig
- Cymhwyso Triniaethau Ymarferol
- Cyngor cyn ac ar ôl triniaeth
- Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
Cynhelir asesiadau drwy arholiadau ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill Dyfarniad VTCT Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
Bydd rhaid i chi feddu ar gymhwyster Lefel 3 mewn Therapi Harddwch neu Dystysgrif Lefel 3 mewn Mynediad i Estheteg a bod yn 18 mlwydd oed neu'n hŷn.
Noder, o 2024 ymlaen, ei fod yn ofynnol yn ôl awdurdodau lleol i chi gwblhau hyfforddiant gorfodol er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer. Mae'r cwrs hyfforddi gofynnol mewn Rheoli Heintiau, sydd yn para un diwrnod, ar gael i chi yn Coleg Gwent.
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.
Manteision Masnachol a Busnes
Gall costau triniaeth Nodwyddo Croen amrywio gan ddibynnu ar yr ardal sy'n cael ei thrin, y cynhyrchion a ddefnyddir a'r cyfuniad o foddion megis plicio a therapi golau LED (Amledd Radio). Byddai triniaethau yn dechrau o tua £150 y sesiwn ac mae cleientiaid yn debygol o angen 3-5 sesiwn i drin pryderon uwch megis creithio oherwydd acne.