En

CBAC Astudiaethau Crefyddol UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Bydd angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

 

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn mynd i'r afael â chipolwg eang ond craff i astudiaethau crefyddol ledled y byd.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn chwilfrydig am ddiwylliannau eraill
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn gallu cymell eich hun
... Oes gennych ddiddordeb mewn athroniaeth crefydd.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster UG, ac yn ymdrin â 2 fodiwl:

  • Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau crefyddol a thestunau sanctaidd, credoau a chysyniadau canolog, hunaniaeth Gristnogol a materion cymdeithasol. Byddwch hefyd yn edrych ar y gwaith chwilio am 'Iesu Hanesyddol', hanes Cristnogaeth, a materion diwinyddol megis pam roedd yn rhaid i Grist farw?
  • Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Mae hyn yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, megis moeseg rhinwedd ac egoistiaeth foesol; damcaniaeth cyfraith naturiol Aquina, moeseg sefyllfaoedd, defnyddiolaeth; dadleuon ynglyn â bodolaeth Duw, y broblem o ddrwg a dioddef a phrofiad crefyddol.

Yn ystod eich ail flwyddyn o astudio, byddwch yn gweithio i gyflawni eich cymhwyster Uwch, ac yn ymdrin â 3 modiwl:

  • Cristnogaeth, yn cynnwys unedau ar ffigurau a thestunau crefyddol, datblygiadau hanesyddol a chymdeithasol sylweddol ym meddyliau crefyddol ac arferion crefyddol sy'n ffurfio hunaniaeth grefyddol. Bydd hyn yn cynnwys y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, Diwinyddiaeth Ffeministaidd ac ymateb Cristnogion i broblemau byd-eang.
  • Mae Crefydd a Moeseg yn cynnwys unedau ar feddwl moesol, moeseg ddeontolegol, penderfyniaeth ac ewyllys rydd.
  • Mae Athroniaeth Crefydd yn cynnwys unedau ar heriau credoau crefyddol, profiad crefyddol ac iaith grefyddol.

Byddwch yn cael eich asesu ar Lefel UG ac U.

Asesiadau UG:

  • Cristnogaeth: Un arholiad yn para 1 awr 15 munud (15% o'r cymhwyster cyfan)
  • Cyflwyniad i grefydd a moeseg ac athroniaeth crefydd: Un arholiad yn para 1 awr 45 munud (25% o'r cymhwyster cyfan);

Asesiad Lefel Uwch:

  • Un arholiad yn para 1 awr 30 munud ym mhob un o'r tri modiwl
  • Mae Cristnogaeth, Moeseg ac Athroniaeth crefydd i gyd yn cynrychioli 20% yr un o'r cymhwyster cyfan (UG = 40% ac U = 60%).

Wedi i chi ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:

  • Astudiaethau Crefyddol Lefel UG
  • Astudiaethau Crefyddol Lefel Uwch

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gyda chymhwyster mewn astudiaethau crefyddol, cewch fynd ymlaen i addysg uwch neu ddod o hyd i gyflogaeth mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys addysgu, gwaith elusennol â thâl, marchnata, y weinidogaeth grefyddol, rheoli.

Mae hwn yn bwnc ychwanegol da i ddysgwyr sy'n ystyried dilyn llwybrau at feysydd megis y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol/cenedlaethol a'r fyddin.

Mae sawl dysgwr wedi astudio'r pwnc hwn gyfochr â phynciau STEM, gan ei fod yn darparu cyfle i ymdrin â nhw o safbwynt athronyddol a moesol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen ichi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol. Cynhelir ymweliadau yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn cyfoethogi eich profiad dysgu.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Astudiaethau Crefyddol UG Lefel 3?

EFAS0150A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr