Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn edrych ar hanes y byd yn eang a chraff.
...ydych yn mwynhau ymchwilio a darganfod ffeithiau
...ydych yn chwilfrydig am ddigwyddiadau hanesyddol a'u heffaith ar ein byd modern
...ydych yn angerddol dros hanes
...oes gennych ddiddordeb mewn dilyn Llwybr y Dyniaethau, Llwybr y Gyfraith neu'r Llwybr Saesneg ac Ysgrifennu
Mewn Hanes UG a Safon Uwch, mae ffeithiau a chysyniadau i’w deall am sut mae’r gymdeithas yr ydym yn byw ynddi wedi esblygu. Ond wrth astudio'r pwnc, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol megis dadansoddi ymchwil, gwerthuso a chyfathrebu.
In AS and A Level History, there are facts and concepts to understand about how the society in which we live has evolved. But in studying the subject, you’ll also develop essential skills such as research analysis, evaluation and communication.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn cyflawni:
- Lefel AS Hanes
- Lefel A Hanes
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu’n uwch arnoch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Pwnc academaidd traddodiadol cydnabyddedig yw hanes, sy'n eich galluogi i fynd ymlaen i addysg uwch neu gyflogaeth. Mae cyfleoedd ar gael i raddedigion hanes mewn amrywiaeth o broffesiynau gan gynnwys y Gyfraith, Addysg, Busnes, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a gwaith Amgueddfa.
I gofrestru ar y cwrs hwn, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu’n uwch arnoch, ac o leiaf gradd C mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd.
Bydd angen ichi wneud cyfraniadau ariannol at gost teithio ymweliadau addysgol. Mae ymweliadau arferol yn cynnwys cestyll lleol a safleoedd treftadaeth, yn ogystal â'r cyfle i gymryd rhan mewn teithiau tramor sy'n gysylltiedig â'r cwrs Hanes Uwch.