En

CBAC Mathemateg Bellach UG Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Lefelau A

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

O leiaf 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd A* neu A mewn Mathemateg

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg difyr ac addysgiadol ar Fathemateg.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dilyniant mathemategol
... Ydych eisiau dilyn gyrfa mewn Addysgu, Cyfrifeg neu Ystadegau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae Mathemateg Bellach yn ehangu a dyfnhau'r meysydd pwnc a astudir ym Mathemateg Lefel UG/U. Mae'n gymhwyster Lefel UG/U ar wahân, ac mae modd ymgymryd ag o ochr yn ochr â'r opsiwn Mathemateg arferol yn unig. Cewch eich cyflwyno i bynciau newydd, megis Matricsau a Rhifau Cymhleth, sy'n hanfodol mewn nifer o gyrsiau gradd ag elfen gref o fathemateg. Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i dair elfen:  Mathemateg Bur, Ystadegau a Mecaneg.

Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, mae angen ichi fod ag o leiaf 5 TGAU Gradd A*-C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd A* neu A mewn Mathemateg.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun gan fodloni terfynau amser gwaith cartref yn gyson a chymryd rhan mewn asesiadau ffurfiol cyson.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Prifysgol, yn cynnwys graddau sydd ag elfen gref o Fathemateg, megis Mathemateg, Peirianneg, Gwyddorau, Cyfrifiadura a Chyllid ac Economeg. Byddwch yn cael budd enfawr o ymgymryd â Mathemateg Bellach i o leiaf Lefel UG. Mae'n bwnc a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r holl gostau'n cael eu hadolygu a gallant newid.

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyfoethog i’w ddysgwyr Lefel A ac UG ac mae’n awyddus i sicrhau bod dysgwyr ledled Gwent yn gallu cael mynediad at bynciau sydd yn hanesyddol yn recriwtio niferoedd bach. Er mwyn sicrhau argaeledd, cynigir Sbaeneg a Ffrangeg ar ein Campws Crosskeys a chynigir y Gymraeg ar ein campysau Parth Dysgu Crosskeys a Blaenau Gwent. Bydd Cerddoriaeth a Mathemateg Bellach yn cael eu cynnig ar bob un o’n campysau. Os bydd eich dewis o bynciau yn golygu bod angen teithio rhwng campysau, cysylltwch â'n hadran dderbyniadau am ragor o wybodaeth.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC Mathemateg Bellach UG Lefel 3?

EFAS0138A1
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr