Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg difyr ac addysgiadol ar Fathemateg.
... Oes gennych ddiddordeb brwd mewn dilyniant mathemategol
... Ydych eisiau dilyn gyrfa mewn Addysgu, Cyfrifeg neu Ystadegau
... Ydych yn gweithio'n galed ac yn rhagweithiol
Mae Mathemateg Bellach yn ehangu a dyfnhau'r meysydd pwnc a astudir ym Mathemateg Lefel UG/U. Mae'n gymhwyster Lefel UG/U ar wahân, ac mae modd ymgymryd ag o ochr yn ochr â'r opsiwn Mathemateg arferol yn unig. Cewch eich cyflwyno i bynciau newydd, megis Matricsau a Rhifau Cymhleth, sy'n hanfodol mewn nifer o gyrsiau gradd ag elfen gref o fathemateg. Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu i dair elfen: Mathemateg Bur, Ystadegau a Mecaneg.
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Mathemateg Bellach Lefel U CBAC
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y cwrs a'r gallu i gymell eich hun. Mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun gan fodloni terfynau amser gwaith cartref yn gyson a chymryd rhan mewn asesiadau ffurfiol cyson.
Prifysgol, yn cynnwys graddau sydd ag elfen gref o Fathemateg, megis Mathemateg, Peirianneg, Gwyddorau, Cyfrifiadura a Chyllid ac Economeg. Byddwch yn cael budd enfawr o ymgymryd â Mathemateg Bellach i o leiaf Lefel UG. Mae'n bwnc a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.
O leiaf 5 TGAU gradd A*-C, yn cynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a gradd A* neu A mewn Mathemateg