Yn gryno
Dyma eich cam cyntaf i'w gwneud hi ym myd busnes. Mae Astudiaethau Busnes yn bwnc difyr sy'n gofyn i chi ystyried y materion ysbrydol, moesol, moesegol, cymdeithasol, diwylliannol a chyfoes sydd ynghlwm â busnesau, cydnabod bod amcanion busnes yn cael eu hysbrydoli gan y materion hyn a bod angen ystyried nifer o randdeiliaid yn y broses gwneud penderfyniadau.
… Rydych chi’n ymddiddori ym myd busnes
...Rydych chi’n gweithio’n galed ac yn rhagweithiol
... Ydych eisiau rôl uwch mewn busnes neu eisiau rhedeg eich busnes eich hun
Mae'r cwrs Lefel U yn adeiladu ar y wybodaeth, dealltwriaeth a'r sgiliau yr enillasoch ym Mlwyddyn Un, ac yn eu datblygu. Asesir drwy arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd bob blwyddyn. Nid oes gwaith cwrs.
Mae pedwar modiwl yn y cwrs:
- Lefel UG: Cyfleoedd Busnes (Uned 1)
- Swyddogaethau Busnes (Uned 2)
- Lefel U: Dadansoddiad a Strategaeth Busnes (Uned 3)
- Busnes mewn Byd Newidiol (Uned 4)
Mae’r cyrsiau Safon UG a Safon Uwch mewn Astudiaethau Busnes, sydd fel arfer yn cael eu cyflwyno fel rhan o raglen astudio amser llawn neu ran-amser, yn cael eu cynnig yn ystod oriau’r dydd, ar draws 3 diwrnod. Felly, maen nhw’n addas i’r rhai sy’n dymuno astudio pwnc unigol ac mae modd mynychu ar amseroedd amrywiol yn ystod yr wythnos.
Mae asesu’n seiliedig ar dasgau gwaith cwrs ymarferol ac arholiad ym mlynyddoedd Safon UG a Safon Uwch. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch chi’n ennill:
- Astudiaethau Busnes Lefel UG
- Astudiaethau Busnes Lefel U
- Gweithgareddau Sgiliau
- Saesneg a Mathemateg
I gofrestru, bydd angen o leiaf
- Pum cymhwyster TGAU, gradd C/4 neu uwch, gangynnwys:
- TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth neu TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU Mathemateg a Rhifedd
.
Rhaid ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs. Mae parchu eraill, brwdfrydedd ynglyn â’r pwnc. Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus a disgwylir ichi barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Gellir astudio Astudiaethau Busnes Lefel UG neu U naill ai fel prif gymhwyster, i barhau gydag o mewn Addysg Uwch, neu gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i gyrsiau priflif eraill.
Mae nifer o fyfyrwyr o'r Gwyddorau, Mathemateg, Ieithoedd a'r Dyniaethau yn dilyn gyrfaoedd yn yr amgylchedd busnes ac yn cael budd mawr o'r wybodaeth a enillir yn y cymhwyster.
- Pum cymhwyster TGAU, gradd C/4 neu uwch, gangynnwys:
- TGAU Saesneg Iaith a Llenyddiaeth neu TGAU Cymraeg Iaith Gyntaf
- TGAU Mathemateg a Rhifedd
Bydd angen i chi wneud cyfraniadau ariannol at y costau teithio ar gyfer teithiau maes a digwyddiadau busnes.