En

Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Gwyddoniaeth / Gwyddor Fforensig Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Mynediad at Addysg Uwch

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae hwn yn gwrs paratoadol ar gyfer prifysgol ac mae lefel uchel o ymrwymiad yn hanfodol. Rydym yn adolygu pob cais yn ofalus ar sail unigol, ac felly rydym yn gofyn i unigolion fynychu sesiwn gyfweld. Ar gyfer mynediad, bydd angen i chi ddangos sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol. Byddwch angen TGAU gradd A* - C (neu sgiliau cyfatebol) mewn Saesneg Iaith neu Fathemateg.

Rhaid i ddysgwyr fod wedi gadael addysg lawn amser am o leiaf tair blynedd cyn astudio'r cwrs hwn. Gan fod y cwrs wedi'i ddylunio ar gyfer yr unigolion sydd â phrofiad bywyd, nid yw'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd o dan 19 oed.

Yn gryno

Os nad oes gennych gymwysterau ffurfiol bydd y cwrs hwn yn cynnig llwybr carlam at addysg uwch mewn gwyddoniaeth a gwyddor fforensig.

Dyma'r cwrs i chi os...

.. Hoffech symud ymlaen at gwrs gradd

...Oes gennych ddiddordeb brwd mewn gwyddor fforensig

...Rydych eisiau gyrfa yn seiliedig ar wyddoniaeth

...ydych yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd ac yn dymuno ychwanegu at eich sgiliau.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Amcan y cwrs yw darparu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol i ddatblygu eich gallu a'ch paratoi chi ar gyfer astudio ar lefel brifysgol, gyda llawer o gyn-fyfyrwyr yn mynd ymlaen i ennill graddau a dyfarniadau eraill. Byddwch yn astudio:

  • Unedau academaidd mewn bioleg, gwyddor fforensig, cemeg a ffiseg
  • Prosiect estynedig sy'n gysylltiedig ag unrhyw un o'r disgyblaethau gwyddonol a astudir
  • Sgiliau Cyfathrebu a mathemateg

Mae'r cwrs hwn yn addas i chi os ydych yn gobeithio symud ymlaen at radd yn un o'r disgyblaethau gwyddonol canlynol:

  • Ffiseg
  • Cemeg
  • Bioleg
  • Biowyddoniaeth
  • Gwyddor Fforensig
  • Bioleg y Môr
  • Technoleg bwyd a gwyddoniaeth
  • Maetheg iechyd y cyhoedd
  • Bioleg Fforensig
  • Bioleg gyda biotechnoleg
  • Radiograffeg ddiagnostig
  • Ffisiotherapi
  • Gwyddorau Biofeddygol
  • Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth (ODP)
  • Fferylliaeth

neu os hoffech yrfa sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth megis gwasanaeth gofal iechyd, addysg, llywodraeth ac ymchwil.

Nid oes arholiadau ffurfiol ond byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy aseiniadau, profion, cyflwyniadau llafar, tasgau ymarferol. Unwaith y byddwch wedi cwblhau hyn, byddwch yn ennill Diploma Mynediad Agored Cymru i'r Gwyddorau Fforensig/Biowyddoniaeth Lefel 3.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae hwn yn gwrs paratoadol ar gyfer prifysgol ac mae ymrwymiad yn hanfodol. Rydym yn adolygu pob cais yn ofalus ar sail unigol, ac felly rydym yn gofyn i unigolion fynychu sesiwn gyfweld. Ar gyfer mynediad, rydym hefyd yn disgwyl gweld sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol. Byddwch angen Gradd TGAU A* - C (neu sgiliau cyfatebol) mewn Saesneg Iaith neu fathemateg.

Rhaid i ddysgwyr fod wedi gadael addysg lawn amser am dair blynedd cyn astudio'r cwrs hwn. Gan fod y cwrs wedi cael ei ddylunio ar gyfer unigolion sydd â phrofiad bywyd, nid yw'n addas ar gyfer ymgeiswyr sydd o dan 19 oed.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol. Mae dangos parch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a hunan gymhelliant yn nodweddion hanfodol rydym yn disgwyl eu gweld ym mhob un o'n dysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hunain. Mae'n rhaid cwblhau pob aseiniad yn llwyddiannus er mwyn ennill y cymhwyster.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyrsiau gradd mewn amrywiaeth o feysydd sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth neu gyflogaeth. Gallwch hefyd wneud cais ar gyfer y Radd Sylfaen mewn Gwyddorau Fforensig. Mae'r cwrs hwn wedi ei ddylunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn llywodraeth leol, ymddiriedolaethau iechyd cenedlaethol, Y Weinyddiaeth Amddiffyn, yr heddlu, ysgolion, prifysgolion a cholegau addysg bellach, labordai fforensig a dadansoddi, asiantaethau cadwraeth ac amgylcheddol, asiantaethau telathrebu neu gwmnïau olew a nwy.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi gwblhau cyfweliad ac asesiad cychwynnol.

Rydym yn cynghori dysgwyr i edrych ar ofynion mynediad prifysgolion, gan y bydd hyn yn amrywio o un sefydliad i'r llall.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Agored Cymru Mynediad at Addysg Uwch Agored Cymru - Gwyddoniaeth / Gwyddor Fforensig Lefel 3?

PFAC0029AA
Parth Dysgu Torfaen
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr