Addysg Uwch Cymorth Dysgu

Student with glasses smiling at teacher

Eich cefnogi chi

Mae gennym ni ddigonedd o wasanaethau cymorth ar gael, p’un a oes angen cymorth arnoch gyda phrawfddarllen eich gwaith, cymorth hygyrchedd neu sesiynau ychwanegol i gynorthwyo gydag aseiniadau, rydym yma i helpu!

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Os oes gennych chi anhawster dysgu neu anabledd cofrestredig, dylech chi gynnwys yr wybodaeth hon – yn ogystal â thystiolaeth ategol - fel rhan o’ch cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru neu Gyllid Myfyrwyr Lloegr am gyllid a chymorth.

Ar gyfer y rhan fwyaf o ddysgwyr Addysg Uwch, ariennir cymorth â diagnosis trwy Gymorth Myfyrwyr a chaiff ei gyflenwi gan weithwyr proffesiynol allanol.

Os oes angen cymorth arnoch chi, siaradwch â’ch tiwtor, cysylltwch â’ch Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu cysylltwch â thîm Cymorth CG.

Gall y cymorth gynnwys::

  • Cymorth yn y dosbarth

  • Sesiynau ychwanegol i helpu gydag aseiniadau a gwaith cwrs

  • Cymorth gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (i fyfyrwyr byddar)

  • Cymorth Dyslecsia

  • Defnyddio meddalwedd hygyrchedd gan gynnwys hyfforddiant cychwynnol

  • Trefniadau mynediad ar gyfer arholiadau

Students in the HE Hub

Tiwtoriaid

Fel dysgwr addysg uwch, cewch gymorth unigol gan eich diwtor o ddechrau eich taith yn Coleg Gwent.

Cewch diwtorialau rheolaidd a bydd eich tiwtor yn monitor eich cynnydd yn agos ac yn eich cefnogi drwy eich astudiaethau yn y coleg.

Bydd eich tiwtor yn eich cynorthwyo i deimlo’n gartrefol yn y coleg, eich arwain drwy eich cwrs, cynnig cymorth drwy unrhyw gyfnodau anodd a dathlu llwyddiannau.

Cymorth Academaidd a Chymorth Bugeiliol

Ar bob campws, darperir cymorth i ddysgwyr Addysg Uwch drwy eich tiwtor cwrs a thîm Cymorth CG.

Rydyn ni yma i’ch helpu drwy gydol eich rhaglen astudio a gallwn ni eich cyfeirio at y bobl gywir os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch chi.

Os ydych chi’n ansicr o ran pwy y dylech chi siarad ag ef, mae eich tiwtor bob amser yn bwynt cyswllt cyntaf da.

Gall y cymorth gynnwys:

  • Cymorth sgiliau astudio

  • Arweiniad academaidd

  • Cymorth ar gyfer pryderon am bresenoldeb

  • Cyngor ar gyllid ac ariannu

  • Cymorth ar gyfer rheoli straen a lles