Amseroedd Cau Dros Y Nadolig

Mae'r coleg bellach ar gau tan ddydd Llun 5 Ionawr. Os ydych wedi gwneud ymholiad am gwrs neu wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Ionawr, byddwn yn anelu at ymateb o fewn 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i ni ail-agor.

Dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda.

Addysg Uwch Cymorth Ariannol

Students socialising

Mae cymorth ariannol amrywiol ar gael ichi dros oes eich cwrs, yn cynnwys benthyciadau (y bydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl) a grantiau/bwrsarïau (na fydd yn rhaid ichi eu talu’n ôl). Mae’r cymorth yr ydych yn gymwys i’w gael yn dibynnu ar eich cwrs, ble yr ydych yn astudio, incwm eich aelwyd a ble yr ydych yn byw.

Gwybodaeth

  • Gall Prifysgolion a Cholegau godi ffioedd dysgu o hyd at £9,535 y flwyddyn. Gall myfyrwyr sy’n astudio eu cwrs Addysg Uwch cyntaf ac sydd fel arfer yn byw yng Nghymru gael benthyciad o hyd at £9,535 ar gyfer ffioedd dysgu. Nid yw’r benthyciad hwn yn seiliedig ar incwm eich aelwyd.
  • Yn ogystal â’r benthyciad ffioedd dysgu, gallwch gael cymorth cynhaliaeth (i helpu gyda chostau byw). Gall myfyrwyr cymwys sy’n byw oddi cartref (y tu allan i Lundain) gael £12,345 y flwyddyn, sef cymysgedd o grant a benthyciad. Bydd swm y grant yn dibynnu ar incwm eich aelwyd (gweler yr enghreifftiau isod).
  • Ni fydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn talu unrhyw beth ymlaen llaw.
  • Nid oes yn rhaid i fyfyrwyr dalu unrhyw beth yn ôl hyd nes y byddant wedi cael swydd ac yn ennill mwy na £28,470.
  • Os ydych wedi dilyn cwrs Addysg Uwch o’r blaen, mae’n bwysig ichi ddeall y gallai hynny effeithio ar eich cymhwystra i gael cymorth. I gael manylion, ewch i https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ a darllenwch yr adran ar reolau astudiaeth flaenorol.
  • Mae’r tabl isod yn dangos sut y mae incwm yr aelwyd yn pennu faint o grant cynhaliaeth y gallwch ei gael. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad. Bydd pob myfyriwr yn cael o leiaf £1,000 a gellir ychwanegu at hyn gyda benthyciad.

Mae’r tablau hyn yn dangos amcangyfrif o’r swm y gallech ei gael ar sail incwm eich cartref:

2025 i 2026

Incwm Cartref Byw gartref gyda rhieni Byw oddi cartref, astudio y tu allan i Lundain
Benthyciad Grant Benthyciad Grant
£18,370 neu llai £3,595 £6,885 £4,245 £8,100
£25,000 £4,550 £5,930 £5,398 £6,947
£35,000 £5,992 £4,488 £7,137 £5,208
£45,000 £7,433 £3,047 £8,876 £3,469
£59,200 neu fwy £9,480 £1,000 £11,345 £1,000
Cyfanswm £10,480 £12,345

Beth ddylwn i wneud nesaf?

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am yr holl gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/. Bydd modd i fyfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru wneud cais am gymorth ar-lein o fis Mai.

Byw tu all i Gymru

Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw y tu allan i Gymru, cewch wybodaeth am gyllid a phrosesau ymgeisio trwy ddilyn y dolenni canlynol:

Cymorth ariannol Arall

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni

Cymorth gyda Ffioedd Dysgu

Gall pawb sy’n astudio yng Nghymru ymgeisio am fenthyciad nad yw’n dibynnu ar brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eu ffioedd blynyddol. I fod yn gymwys, rhaid ichi astudio ar ddwysedd o 25% o leiaf, e.e. mae myfyriwr llawn amser yn cwblhau 120 credyd mewn blwyddyn, felly byddai’n rhaid i fyfyriwr rhan amser gwblhau o leiaf 30 credyd y flwyddyn.

Cymorth Cynhaliaeth (Costau Byw)

Gallwch ymgeisio am gymorth o hyd at £4,553tuag at gostau byw, sy’n gyfuniad o grant (na fydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl) a benthyciad (y bydd yn rhaid ichi ei dalu’n ôl). Bydd swm y grant a gewch yn dibynnu ar nifer yr oriau y byddwch yn astudio (dwysedd astudio) ac incwm eich aelwyd.

Ceir enghreifftiau o’r grantiau a’r benthyciadau sydd ar gael yn ôl gwahanol lefelau o incwm aelwydydd a dwysedd astudio yn y tabl isod.

Incwm
(£)
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru neu
Grant Cymorth Arbennig (£)
Benthyciadau
Cynhaliaeth(£)
Cyfanswm y Grant
a’r Benthyciad (£)
Astudio ar ddwysedd o 50%
£25,000 £3,000 £1,553 £4,553
£35,000 £2,270 £2,283 £4,553
£45,000 £1,539 £3,014 £4,553
£59,200+ £500.00 £4,053 £4,553

Cymorth ariannol Arall

Efallai y cewch gyllid ychwanegol os oes gennych oedolion neu blant sy’n ddibynnol arnoch yn ariannol. Gall hyn gynnwys:

  • Grant Oedolyn Dibynnol
  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu i Rieni