Bwrsariaethau Addusg Uwch
Rydym yn falch o gadarnhau y byddwn yn cynnig Bwrsariaethau Addysg Uwch i gefnogi dysgwyr sydd eisiau astudio yn Coleg Gwent.
They are available to learners applying to study with us at the bursary specific designated level from September 2026, funds will be offered on a first come first served basis, in the following areas:
Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent yn un o’r pynciau canlynol:
- Ymarfer Gofal Iechyd (i gynnwys Gwaith Ieuenctid a Gwaith Cymunedol, Rheolaeth Iechyd a Lles a Gofal Cymdeithasol, Ymarfer Gofal Iechyd Cyflenwol ac Astudiaethau Plentyndod)
- Technolegau Cymunedol (i gynnwys Seiberddiogelwch, Cyfrifiadura a Chelf a Dylunio Gemau)
- HNC Peirianneg
- Gradd Atodol BSc (Anrh) – Nyrsio Milfeddygol
- Gradd Atodol BSc (Anrh) – Iechyd a Lles Anifeiliaid
- Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau
Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid eu bod wedi bod allan o addysg am o leiaf 5 mlynedd.
Ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Addysg Uwch llawn amser Lefel 4 yn Coleg Gwent.
Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed a rhaid iddynt allu profi eu bod yn ofalwr ifanc.
Ar gyfer myfyrwyr sydd wedi dilyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch lefel 3 yn Coleg Gwent ac sy’n dilyn cwrs llawn amser lefel 4 yn Coleg Gwent ar hyn o bryd.
Bwrsariaeth Dilyniant MYNEDIAD i Addysg Uwch £350 Coleg Gwent
Ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau rhaglen astudio lefel 5 gyda ni ac maent yn symud i astudio ar Gwrs Addysg Uwch Amser Llawn lefel 6 (Blwyddyn Ategol) yn Coleg Gwent.
Mewn partneriaeth â Rhaglen y Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, mae’n bleser gennym gynnig cyfle i wneud cais am fwrsariaeth o £1,000, a fydd yn cael ei dyfarnu i ymgeiswyr llwyddiannus sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd a restrir isod ac sy’n manylu ar ddatganiad dilys ynghylch sut y bydd y fwrsariaeth yn cefnogi eich astudiaethau a nodau gyrfa yn y pen draw:
- Rhaid i ymgeiswyr fyw ym Mlaenau Gwent.
- Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 yn flaenorol yng Ngholeg Gwent mewn pwnc cysylltiedig.
- Rhaid i ymgeiswyr gytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo gydag ysgolion lleol a helpu i greu profiadau/astudiaethau achos i helpu i ysbrydoli pobl ifanc i astudio a gweithio yn y diwydiant.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn astudio ar un o’r rhaglenni canlynol:
- HNC/HND Peirianneg Fecanyddol
- HNC/HND Peirianneg Drydanol ac Electronig
- HNC/HND Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig
- HNC/HND Peirianneg Sifil
- HNC/HND Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth
- Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio Gemau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Tachwedd 2025
Mae rhagor o wybodaeth am Raglen y Cymoedd Technoleg ar gael ar Wefan Llywodraeth Cymru.
Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar sail y meini prawf cymhwysedd. Os derbynnir mwy na 30 o geisiadau cymwys bydd grŵp llywio Coleg Gwent a swyddogion y Cymoedd Technoleg yn gwneud dyfarniad ar y dyraniad yn seiliedig ar ddatganiad personol yr ymgeisydd. Ein nod yw hysbysu pob ymgeisydd llwyddiannus trwy e-bost a bydd yr holl daliadau bwrsariaeth yn cael eu gwneud i gyfrifon banc dysgwyr ar ddiwedd Ionawr 2026. Mae taliadau’n amodol ar gofrestru’r dysgwr gyda Choleg Gwent a’r Brifysgol bartner ym mis Ionawr 2026.
Dim ond un taliad bwrsariaeth a wneir i ddysgwr mewn unrhyw flwyddyn academaidd.
Bwrsariaeth Dilyniant Addysg Uwch y Cymoedd Technoleg Cais am £1,000 (Tech Valleys)