Cyber College Cymru

Cyber College Cymru hub

Addysgu'r genhedlaeth nesaf o dalent ddigidol

A ydych chi eisiau dilyn gyrfa o fewn y diwydiant digidol?

Gallwch ennill cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol sy’n gyfwerth â thri phwnc Safon Uwch mewn partneriaeth â chyflogwyr blaenllaw’r diwydiant.

Rydym yn rhan o Cyber College Cymru, menter newydd sbon Llywodraeth Cymru sy’n rhoi’r cyfle ichi ddechrau cwrs arloesol o astudio digidol.

CyberFirst College Gold Award logo

Mae Coleg Gwent hefyd wedi cael cydnabyddiath fel coleg Aur Cyberfirst!

Cyber College Cymru students in the Cyber Hub

Cwrs BTEC Cyfrifiadura Coleg Seiber

Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn cynnwys cannoedd o oriau o fewnbwn diwydiant ynghyd â chwricwlwm ffres wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth â Cyber College Cymru.

Byddwch yn elwa o weithio gyda’n partneriaid diwydiant, drwy fentora, darlithwyr gwadd, lleoliadau gwaith a gweithdai.

Ydi’r cwrs yma’n addas i chi?

Mae’r cwrs Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Cyfrifiadura yn berffaith ar gyfer ymgeiswyr sydd:

  • Eisiau cwrs astudio sy’n cyfuno gwybodaeth cyfrifiadura a sgiliau ymarferol
  • Yn frwd ynghylch gofynion technolegol newidiol y diwydiant
  • Wedi eu hysgogi gan anghenion diwydiant a chyflogwr er mwyn bod yn barod am y gweithle
  • Eisiau cyfuno gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth fusnes
  • Yn dymuno dilyn gyrfa neu astudiaethau pellach yn y byd Seiber neu ddiwydiannau digidol eraill

Oes diddordeb gennych chi?

Ymgeisiwch nawr