Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent
Dysgwch rywbeth newydd. Magwch hyder. Newidiwch eich dyfodol.
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (Adult Community Learning - ACL) yn rhoi cyfle i oedolion oed 19 neu'n hŷn ddysgu yn eu cymuned leol. Nid oes angen i chi gael cynllun gyrfa pendant na gwybod yn union beth rydych chi am ei gyflawni - gallwch ddechrau gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi a gweld i ble mae dysgu yn mynd â chi.
Dysgwch yn lleol ledled Gwent
P'un a ydych chi am wella eich sgiliau Saesneg, mathemateg neu sgiliau digidol, datblygu sgiliau ar gyfer y gwaith, archwilio diddordeb newydd, cwrdd â phobl newydd neu fynd â'ch dysg ymhellach, fe welwch gyfleoedd ledled Gwent i'ch helpu i ddechrau arni.
Mae Coleg Gwent yn arwain Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwent, gan weithio gyda darparwyr awdurdodau lleol ledled Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Torfaen.
-
Dysgwch yn lleol - Dysgwch mewn lleoliadau cymunedol croesawgar ledled Gwent, gan ei gwneud hi'n haws cydbwyso dysgu â'r gwaith, cyfrifoldebau gofalu a bywyd bob dydd.
-
Magwch hyder - Dysgwch gyda thiwtoriaid profiadol mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.
-
Cwrdd â phobl newydd Cysylltwch ag eraill yn eich cymuned leol a magu hyder drwy ddysgu ynghyd.
-
Dysgwch ar gyfer y gwaith neu fywyd Magwch sgiliau ar gyfer y gwaith, dysgu pellach neu rywbeth sydd o ddiddordeb ichi.
Pynciau ar gael ledled Gwent
Mae yna lawer o ffyrdd o ddysgu drwy Ddysgu Oedolion yn y Gymuned, p'un a ydych chi am ddatblygu sgiliau hanfodol, paratoi ar gyfer y gwaith, cefnogi eich iechyd a'ch hyder, neu archwilio rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau. Mae'r hyn sydd ar gael yn amrywio yn ôl ardal a thrwy gydol y flwyddyn.
Defnyddiwch y tabl isod i weld pa feysydd pwnc sydd ar gael yn eich ardal. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiadau a lleoliadau cyrsiau a dysgu sut i wneud cais, defnyddiwch y dolenni i ddarparwyr lleol yn yr adran nesaf.
| Maes pwnc | Blaenau Gwent | Caerffili | Sir Fynwy | Casnewydd | Torfaen |
|---|---|---|---|---|---|
| Saesneg, Mathemateg a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill |
|
|
|
|
|
| Sgiliau Digidol a TG | |||||
| Iechyd a Llesiant | |||||
| Sgiliau Byw'n Annibynnol | |||||
| Sgiliau cyflogadwyedd a gyrfaol | |||||
| Sgiliau ymarferol a'r celfyddydau creadigol | |||||
| Ieithoedd | |||||
| Coginio a sgiliau bwyd | |||||
| Addysg a chymorth addysgu | |||||
| Sgiliau bywyd a chymunedol |
Dewch o hyd i gyrsiau yn eich ardal
Cynhelir sesiynau Dysgu Oedolion yn y Gymuned mewn lleoliadau lleol ledled Gwent, gan gynnwys canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd, ysgolion, canolfannau hamdden a mannau dysgu eraill. Dewiswch eich ardal isod i weld y cyrsiau diweddaraf a dysgu sut i wneud cais.
Oriel