Ydych chi angen ychydig o gymorth gan ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar?
DO
Bydd angen ichi gadarnhau eich lle drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Coleg Gwent.
Os hoffech fwy o gyngor ac arweiniad cyn derbyn eich cynnig, gallwch sgwrsio gyda’n tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei nodi.
Naddo
Peidiwch â chynhyrfu! Nid yw hi’n rhy hwyr i wneud cais ar-lein ac ymuno â ni fis Medi.
Mae ein tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar yma i’ch helpu i ddewis y cwrs perffaith i chi ac i gyflwyno’ch cais. Gallant eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu bryderon, felly ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1), neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk heddiw.
Neu beth am ddod i’n gweld ar un o’n Dyddiau Canlyniadau a Chyngor i archwilio mwy o opsiynau?
Gobeithiwn y byddwch wrth eich bodd gyda’ch canlyniadau, ond peidiwch â phoeni os na fyddwch yn cael y canlyniadau a obeithiwyd. Beth bynnag fydd yn digwydd, rydym yma i’ch cefnogi a gallwch lwyddo yn Coleg Gwent.
Os na chawsoch y graddau oedd eu hangen arnoch ar gyfer eich cwrs, dewch draw ar gyfer eich ymrestru beth bynnag a gallwn drafod eich opsiynau. Os hoffech siarad â ni cyn hynny, bydd ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn barod i’ch helpu. Bydd gennym gwrs llawn amser neu addysg uwch i chi. Ffoniwch nhw ar 01495 333777 (dewisiwch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk heddiw.
Dim problem! Cysylltwch â’n tîm Recriwtio Myfyrwyr ar 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1) neu e-bostiwch helo@coleggwent.ac.uk am gyngor ac arweiniad.
Mynnwch fwy o wybodaeth ynghylch ymrestru a dechrau eich cwrs llawn amser neu addysg uwch nawr. Edrychwn ymlaen at eich gweld ym mis Medi!
Os oes gennych chi gynnig lle ar gyfer cwrs amgen, dewch ar yr amser cofrestru a neilltuwyd i chi os bydd lle yn codi ar y cwrs o’ch dewis.
Os nad oes gennych chi gynnig lle ar gyfer cwrs amgen, cysylltwch â’n tîm Recriwtio Myfyrwyr drwy ffonio 01495 333777 (dewiswch opsiwn 1), neu drwy e-bostio helo@coleggwent.ac.uk i gael cyngor ac arweiniad.