Straeon o Lwyddiant

Myfyrwyr Darlunio yn Cydweithredu â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Friff Byw i Ddiwydiant

Bydd myfyrwyr yn dod â hanes yn fyw trwy brosiect darluniadau proffesiynol ar gyfer llwybr y Pasg Tŷ Tredegar.

Mae myfyrwyr sy’n astudio yn eu hail flwyddyn ar gwrs Gradd Sylfaen mewn Darlunio wedi ennill profiad proffesiynol amhrisiadwy trwy friff byw cyffrous a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Fel rhan o’u modiwl olaf, gweithiodd dysgwyr gyda Thŷ Tredegar ar brosiect darlunio byd go iawn yn cefnogi llwybr y Pasg i deuluoedd yr eiddo. Darparwyd y briff gan Anna o’r tîm Profiad yr Ymwelydd yn Nhŷ Tredegar a chafodd ei ddatblygu ymhellach gan aelodau staff addysgu i sicrhau ei fod yn alinio â deilliannau dysgu y modiwl.

Rhoddwyd y dasg o gynhyrchu corff o waith cynhwysfawr i’r myfyrwyr, gan gynnwys 13 darluniad o gymeriadau, tudalennau lliwio, poster hyrwyddo a map o’r llwybr. Canolbwyntiodd cysyniad y prosiect ar ddau arddwr presennol sy’n darganfod capsiwl amser sy’n rhyddhau aelodau hanesyddol o deulu’r tŷ. Roedd yn rhaid i bob cymeriad fod yn hanesyddol gywir, wedi’i wisgo mewn dillad o’r cyfnod a chael ei ddangos yn cyflawni gweithgareddau yr oedd yn adnabyddus amdanynt.

O’r cychwyn cyntaf, roedd dysgwyr yn ymwybodol y byddai’r gwaith celf a ddewiswyd yn cael ei ddefnyddio gan Dŷ Tredegar ar gyfer digwyddiad y Pasg eleni a’i gadw am hyd at dair blynedd gan gynnig cipolwg go iawn ar ymarfer darlunio proffesiynol.

Cafodd un myfyriwr buddugol ei ddewis, Kaisha, a ffurfiodd ei darluniadau ran o raglen y Pasg ar gyfer y tair blynedd nesaf. Canmolodd Anna o Dŷ Tredegar safon y gwaith a gynhyrchwyd, gan ddweud:

“Rydym wrth ein boddau’n gallu defnyddio gwaith Kaisha. Mae’n adlewyrchiad gwych o ansawdd ac addasrwydd ei darluniadau. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r holl fyfyrwyr am eu gwaith caled a’u creadigrwydd – mae gweithio gyda nhw i gyd wedi bod yn bleser mawr.”

Bydd pob myfyriwr a gymerodd ran yn cael Pas Acorn, gan ganiatáu mynediad am ddim i Dŷ Tredegar a hefyd dyfarnwyd Pas Rheolwr Cyffredinol i Kaisha fel cydnabyddiaeth o’i chyflawniad. Hefyd, rhoddwyd diolch arbennig i ddarlithydd y cwrs, Angelina, am yr hyn y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio a fydd yn bartneriaeth barhaol.