Coleg Gwent Principal; Nicola Gamlin, Coleg Gwent Vice Principal;Dan Coles, Leader of Newport Council; Dimitri Batrouni, and John Griffiths MS at the construction site for Newport Knowledge Quarter, Newport.
Newyddion

Buddsoddiad Mawr mewn Addysg i Drawsnewid Canol Dinas Casnewydd

Mae Coleg Gwent yn symud ymlaen gyda buddsoddiad arwyddocaol gwerth £105 miliwn a fydd yn trawsnewid addysg bellach yng Nghasnewydd ac yn creu campws newydd bywiog yng nghalon y ddinas.

Bydd y prosiect, sy’n cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd, yn darparu campws modern, hygyrch ac o’r radd flaenaf i ddiwallu anghenion dysgwyr ar draws y ddinas.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r datblygiad drwy gyfrannu mwy na 80% at gostau’r prosiect. Mae’r mis hwn yn nodi carreg filltir bwysig wrth i’r prosiect symud i’r ail gam mawr o ddatblygiad - cyfnod a fydd yn canolbwyntio ar waith dylunio manwl, cynllunio a threfniadau paratoi ar gyfer adeiladu.

Dywedodd Dan Coles, Is-Bennaeth – Partneriaethau a Thaith y Dysgwr:

“Mae cymeradwyaeth yr achos busnes gan Lywodraeth Cymru yn garreg filltir arwyddocaol i’r prosiect. Mae’n ein galluogi i symud i’r 12 mis olaf o ddylunio a chynllunio manwl cyn y cymeradwyaeth terfynol y flwyddyn nesaf. Mae hwn yn ddatblygiad uchelgeisiol gyda gwir botensial i Gasnewydd, ac rwy’n edrych ymlaen at ei lywio drwy’r cam nesaf.”

Wedi’i leoli ar gyn safle Canolfan Casnewydd, a sicrhawyd gyda chefnogaeth y cyngor fel rhan o gynlluniau adfywio ehangach, bydd y campws newydd yn dod â hyd at 2,000 o ddysgwyr a staff i ganol y ddinas bob dydd. Disgwylir i’r cynnydd hwn mewn nifer o ymwelwyr hybu busnesau lleol, cryfhau economi’r ddinas, a chreu canolfan sgiliau a dysgu sy’n fwy cysylltiedig nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd:

“Bydd hwn yn fuddsoddiad gwych, nid yn unig yng nghanol y ddinas a Chasnewydd ond yn nyfodol ein pobl ifanc drwy ddarparu cyfleusterau modern o’r radd flaenaf mewn lleoliad hygyrch. Mae hwn yn ddatblygiad mawr a thrawiadol ac rwy’n falch ei fod yn parhau i wneud cynnydd mor dda.”

Bydd y lleoliad yn gwella mynediad i gymunedau ar draws Casnewydd, gyda chysylltiadau trafnidiaeth ardderchog a llwybrau teithio cynaliadwy. Bydd y cyd-leoli gyda Phrifysgol De Cymru yn codi dyheadau, yn creu Cwarter Gwybodaeth unedig, ac yn cryfhau llwybrau dilyniant i waith ac addysg uwch.

Dywedodd Jayne Bryant AS dros Orllewin Casnewydd:

“Mae hwn yn ddatblygiad croesawus iawn. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod un cam yn nes at ganolfan addysg o’r radd flaenaf yng nghalon ein dinas. Newyddion ardderchog i Goleg Gwent a’n pobl ifanc — bydd y campws newydd hefyd yn hwb gwirioneddol i fusnesau lleol a’n heconomi.”

Disgwylir i’r gwaith ddechrau yn ystod haf 2027.