Ardal Wybodaeth Casnewydd Datblygiadau Ystadau
Mae Campws Dinas Casnewydd, sydd wedi’i leoli ar heol Nash, angen buddsoddiad sylweddol er mwyn addysgu gweithlu’r dyfodol i’r safon uchaf a darparu cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig adfywio i symud Canolfan Casnewydd i safle canolfan hamdden newydd ar Lan yr Afon, gyda safle presennol Canolfan Casnewydd yn cael ei ddatblygu’n gampws newydd i Goleg Gwent ac yn rhan o Ardal Wybodaeth Casnewydd.
Mae hyn yn rhoi cyfle i ni greu cyfleuster newydd sbon, modern ac addas i’r diben mewn lleoliad sy’n haws i’n dysgwyr a’n staff gyrraedd iddo. Bydd y campws modern gwerth £90m yn symud darpariaeth ystod eang o gyrsiau addysg bellach o Heol Nash, gan ddod â thua 2,000 o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas. Bydd yr amgylchedd dysgu gwell hwn yn agos at gampws Prifysgol De Cymru – darpariaeth addysg uwch bresennol y ddinas – ac yn ffurfio Ardal Wybodaeth Casnewydd.
Bydd y cyfleuster addysg newydd sbon yng nghanol y ddinas yn cynnig cyfleoedd dysgu mwy hygyrch er mwyn gwella canlyniadau addysgol ac adnoddau cymunedol yr ardal ac, ar yr un pryd, yn rhoi hwb i’r economi leol a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas.
Gwasanaethau Myfyrwyr
- Llyfrgell a chanolfan astudio
- Ardaloedd gweithio'n hyblyg
- Ystafelloedd distaw ac ardaloedd ymlacio
- Mannau cymdeithasol, loceri i fyfyrwyr a wi-fi am ddim
- Ystafell weddi
- Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr
- Cymorth TG ar y safle
- Cyfleusterau ADY arbenigol
- Mannau addysgu modern
- Labordai gwyddoniaeth a thechnoleg
- Cyfleusterau gwallt, harddwch ac arlwyo
- Ystafelloedd staff a lles
- Lle i ystod eang o gyrsiau gael gweithdy
Diweddariadau
Diweddariadau
Cynigion a chynlluniau terfynol
Mae'r cynigion a'r cynlluniau terfynol bellach yn cael eu llunio cyn i'r cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno.
Cytundeb y Cabinet
Cytunodd y Cabinet i barhau â'r cynlluniau i symud y ganolfan hamdden a throi safle presennol Canolfan Casnewydd yn gampws i Goleg Gwent.
Cymeradwyaeth y cyhoedd
Cafwyd cymeradwyaeth eang i'r cynlluniau yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.
Cyfnodau cynnar y prosiect
Mae prosiect Ardal Wybodaeth Casnewydd yng nghyfnod cynnar y gwaith o fodelu gofod, llunio’r cytundeb strategol a thrafod y materion cyfreithiol.
Cyhoeddi adroddiad y Cabinet
Cyhoeddwyd adroddiad gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer ailddatblygu safle presennol Canolfan Casnewydd er mwyn datblygu cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent o dan Raglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif.