O ynysu i gysylltu: Myfyriwr B/byddar yn ffynnu ar ôl dysgu iaith arwyddion
Mae Meg yn dweud bod dysgu BSL yn Coleg Gwent wedi trawsnewid ei hyder, ei chyfathrebu a’i hymdeimlad o berthyn.
13 Mai 2026
Ymunodd Meghan Hillier â Coleg Gwent yn 2024 ar ôl gadael yr ysgol a chafodd ei chefnogi ar unwaith gan Weithwyr Cymorth Cyfathrebu y Coleg. Ers hynny, yn ogystal â dysgu Iaith Arwyddion Prydain mae hi hefyd wedi dod yn rhan o gymuned Byddariaid y Coleg trwy ei Glwb Byddar ymroddedig.

Yn ôl RNID, mae oddeutu 575,000 o bobl B/byddar ac oddeutu 2,100 o blant B/byddarWrth i dros 90% o blant B/byddar gael eu geni i rieni sy’n gallu clywed, nid oes gan lawer o blant fynediad at Iaith Arwyddion Prydain ac maent yn dibynnu’n drwm ar wefusddarllen i gyfathrebu.
Dywedodd Meghan:
“Cyn ymuno â’r Coleg, roeddwn yn wir wedi cael trafferth gyda dysgu yn yr ystafell ddosbarth. Roedd yn rhaid i mi ddibynnu ar wefusddarllen a thaflenni ysgrifenedig. Cefais gyfathrebu â phobl a gwneud ffrindiau yn anodd sydd wedi gwneud i mi deimlo’n ynysig ac unig iawn.
“Mae’r cymorth fy mod wedi’i gael gan Coleg Gwent wedi bod yn anhygoel. Nid wyf byth wedi cael cyfle i ddysgu iaith arwyddion o’r blaen felly mae gallu cyfathrebu yn y ffordd hon yn wir wedi agor fy myd.
“Mae bod yn rhan o gymuned sy’n cynnwys pobl B/byddar eraill yn anhygoel. Rydym yn cwrdd yn rheolaidd ac rydym yn cadw mewn cysylltiad â’n gilydd trwy Teams i rannu profiadau a chefnogi ein gilydd. Mae lefelau fy hyder wedi cynyddu, rwyf wedi gwneud ffrindiau ac rwyf yn teimlo fy mod yn cael fy nerbyn am bwy rydw i.”
Ar ôl cwblhau ei Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, mae Meghan yn bwriadu astudio Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol cyn mynd i’r brifysgol i astudio Bioleg. Mae’n gobeithio dod yn athrawes ysgol uwchradd a helpu dysgwyr B/byddar i sicrhau eu bod yn cael y cymorth nad oedd hi wedi’i gael yn yr ysgol.
Mae Meghan yn un o 68 o ddysgwyr sydd bellach yn cael eu cefnogi yn Coleg Gwent yn dilyn lansio ei Glwb Byddar yn 2020, wedi’i sefydlu gan Lisa Jones a Nisha Davey – y ddau ohonynt yn swyddogion cymorth yn y Coleg.
Mae’r Clwb Byddar yn darparu gofod ymroddedig i fyfyrwyr B/byddar gysylltu, rhannu profiadau a chyfathrebu mewn amgylchedd cefnogol. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob wythnos ac mae’n cadw mewn cysylltiad trwy blatfform ar-lein gan ddefnyddion Iaith Arwyddion Prydain.
Mae’r Coleg hefyd yn darparu Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu, Cynorthwywyr Cymorth Ymwybyddiaeth Byddardod a Chymhorthion Radio, yn ogystal â diwrnodau pontio pwrpasol ar gyfer ei ddysgwyr B/byddar a digwyddiadau lles.

Dywedodd Lisa Jones, Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu yn Coleg Gwent:
“Rydym yn gweithio’n barhaus i chwalu rhwystrau ac adeiladu cymuned sy’n adlewyrchu’r byd o’n hamgylch ni. Mae ein Clwb Byddar yn un ran yn unig o’n hymagwedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ehangach, wedi’i dylunio i greu amgylchedd lle y mae pob dysgwr yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau, magu hyder a theimlo ei fod wedi’i gynnwys.”
Mae’r Coleg yn cynnig cymorth ymroddedig i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Sgiliau Byw yn Annibynnol, cynorthwywyr arbenigol a chymorth pontio pwrpasol. Hefyd, mae gan bob myfyriwr fynediad at ddigonedd o feddalwedd hygyrchedd i gefnogi eu dysgu. Mae hyn yn cynnwys popeth o feddalwedd testun i lefaru a rhaglenni ymwybyddiaeth ofalgar i Systemau Cyfathrebu trwy Gyfnewid Lluniau (PECS) wedi’u dylunio i helpu unigolion dieiriau.