Sgiliau Byw’n Annibynnol

Magu hyder, annibyniaeth a sgiliau bywyd go iawn

Ydych chi erioed wedi teimlo bod yr ysgol heb lwyddo hefo’r pethau pwysig - fel sut i reoli arian, coginio pryd bwyd, neu gynllunio’ch dyfodol?

Mae ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) ar gyfer y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i helpu i wella’u sgiliau tuag at fywyd annibynnol yn y gymuned.

Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol, pob dydd a fydd yn eich helpu i fyw’n fwy annibynnol, i deimlo’n fwy hyderus, a bod yn barod am y cam nesaf - boed hynny’n addysg bellach, yn gyflogaeth, neu’n fyw ar ben eich hun.

Dysgwch mewn mannau a gynlluniwyd ar gyfer bywyd go iawn

Mae’n fan diogel lle gallwch ddysgu wrth eich pwysau eich hun, trio pethau newydd, a theimlo’r gefnogaeth bob cam o’r daith.

Yn Coleg Gwent, byddwch yn dysgu mewn lleoliadau hamddenol, cefnogol sy’n teimlo’n gartrefol. Mae ein cyfleusterau'n cynnwys:

  • Ceginau wedi’u cyfarparu’n llawn ar gyfer coginio ymarferol
  • Byngalo a fflatiau byw'n annibynnol cyfforddus
  • Gofodau gardd ymlaciol a mannau awyr agored
  • Dosbarthiadau arbenigol ymroddedig ar gyfer canolbwyntio ar ddysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Yn ogystal, bydd ein tîm cefnogol yn eich helpu i ddatblygu’ch sgiliau darllen, mathemateg a thîm, a fydd o gymorth i chi mewn bywyd bob dydd.

Mae ein cyrsiau ILS yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol a datblygiad personol, gan eich helpu i fagu hyder a pharatoi ar gyfer byw’n annibynnol. Byddwch yn ymdrin â phynciau hanfodol fel:

  • Cyllidebu a rheoli eich arian
  • Coginio a threfnu prydau bwyd
  • Cynllunio’ch camau nesaf i waith neu addysg
  • Magu hyder a chyfathrebu
  • Bod yn weithgar ac yn rhan o’ch cymuned
  • Garddio a thyfu’ch bwyd eich hun
  • Celf a chrefft
  • Sgiliau digidol a TG
https://bloom-digital.s3.eu-west-2.amazonaws.com/coleg-gwent/wp-content/uploads/2025/07/16101559/France-ILS-feature-video-desktop.jpg

Dysgu wrth wneud

Nid yw popeth yn ymwneud â’r ystafell ddosbarth. Byddwch yn cael ymweld â siopau lleol, amgueddfeydd, a mannau cymunedol - gan ddefnyddio’ch sgiliau mewn sefyllfaoedd byd go iawn. Byddwch hefyd yn cael cymryd rhan mewn prosiectau fel codi arian a mentergarwch, sy’n gwella gwaith tîm, cyfathrebu a sgiliau datrys problemau.

Y peth gorau am ILS yw fy nghyfathrebwr, mae hi mor ddoniol ac yn gwneud dysgu'n hwyl! Mae'r tiwtoriaid yn wych hefyd, ac rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Rydym yn cael rhoi cynnig ar bopeth, coginio, paentio, garddio, cerddoriaeth, a chwaraeon, ac rydym hyd yn oed yn mynd ar dripiau i ddysgu sut i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Cameron - ILS

Cymerwch eich cam nesaf tuag at annibyniaeth

P’un a ydych yn chwilio am sgiliau newydd, yn awyddus i fagu mwy o hyder, neu baratoi ar gyfer gweithio neu astudio ymhellach, mae ein cyrsiau ILS ar gael i’ch helpu chi lwyddo.

Edrychwch ar ein cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol heddiw a chychwyn ar adeiladu dyfodol o’ch dewis.

Cyrsiau

Hidlyddion

Sort by

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your options:

Choose your fee range:

Choose your start date: