Coleg Gwent staff with certificates at the Work Welsh Awards
Newyddion

Staff Coleg Gwent yn cael cydnabyddiaeth yng Ngwobrau Dysgu Cymraeg

Mae aelodau staff o Coleg Gwent wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ddysgu Cymraeg yn ystod seremoni .

Mae aelodau staff o Coleg Gwent wedi cael cydnabyddiaeth am eu hymrwymiad i ddysgu Cymraeg yn ystod seremoni Gwobrau Dysgu Cymraeg 2026 a gynhaliwyd ar gampws Casnewydd y Coleg..

Dathlodd y seremoni gyfranogwyr y rhaglen Cymraeg Gwaith gan gydnabod yr ymroddiad a’r gwaith caled y maent wedi’i ddangos o ran datblygu eu sgiliau Cymraeg ochr yn ochr â’u rolau proffesiynol.

Cyflwynwyd tystysgrifau gan Bennaeth Coleg Gwent, Nicola Gamlin, a longyfarchodd gydweithwyr ar eu cyflawniad.

Dywedodd Nicola:

“Mae dysgu Cymraeg yn cymryd ymroddiad a phenderfyniad, yn enwedig wrth gydbwyso astudio ochr yn ochr â gwaith ac ymrwymiadau eraill. Hoffwn longyfarch pawb a gafodd gydnabyddiaeth yn ystod seremoni wobrwyo eleni. Mae eu cyflawniadau yn dangos ymrwymiad go iawn i ddatblygiad personol ac maent yn helpu i gryfhau eu gallu i ddarparu amgylchedd dwyieithog croesawgar ar draws y Coleg.”

Coleg Gwent Principal Nikki Gamlin with Work Welsh learner

Mae’r rhaglen Cymraeg Gwaith yn cefnogi cyflogeion ar draws Cymru i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, gan helpu i fagu hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle a chreu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ym mywyd o ddydd i ddydd.

Mae Coleg Gwent wedi ymrwymo i hyrwyddo a chefnogi’r iaith Gymraeg ac mae llwyddiant y rhai a gydnabuwyd yn ystod y seremoni wobrwyo yn pwysleisio’r rôl bwysig y mae aelodau staff yn ei chwarae o ran meithrin diwylliant dwyieithog ar draws y Coleg.