Newyddion

Dysgwyr arobryn Coleg Gwent yn cyrraedd Rowndiau Terfynol Menter yr Ifanc y DU

Mae’r rhaglen Menter yr Ifanc yn rhoi cyfle i ddysgwyr brofi’r realiti sydd ynghlwm â rhedeg busnes, o ddatblygu cynhyrchion a marchnata eu syniadau i reoli cyllid a chyflwyno gerbron beirniaid diwydiant.

Mae dysgwyr ar raglen Addysg Gysylltiedig â Gwaith Lefel 2 Coleg Gwent wedi dathlu blwyddyn neilltuol yn y Rhaglen Tîm Menter yr Ifanc wrth i ddau gwmni a arweinir gan fyfyrwyr ennill gwobrau rhanbarthol a bachodd un tîm le yn Rowndiau Terfynol y DU.

Datblygodd a gwerthodd y tîm cyntaf, TLZ Wellness, flychau iechyd meddwl a lles i fyfyrwyr sydd wedi’u dylunio i gefnogi lles dysgwyr. Creodd yr ail dîm, Calm and Colour, grysau clymu a llifo lliwgar ochr yn ochr â theganau synhwyraidd wedi’u haddasu at ddibenion gwahanol a’u pecynnu yn flychau llesiant. Arweiniodd eu syniad busnes arloesol atynt yn mynd yr holl ffordd i Rowndiau Terfynol y DU Menter yr Ifanc -cyflawniad anhygoel a roddodd gydnabyddiaeth i’w creadigrwydd, eu gwaith tîm a’u hysbryd entrepreneuraidd.

Drwy gydol y gystadleuaeth, enillodd y dysgwyr ystod o wobrau o fri, gan gynnwys:

  • Gwobr Cynaliadwyedd
  • Gwasanaeth i Gwsmeriaid Gorau
  • Brandio Gorau
  • Cyflwyniad Gorau
  • Technoleg Orau
  • Enillydd Cyffredinol (Rhaglen Tîm) – ddwywaith
  • Gwobr Ysbrydoli

Mae’r rhaglen Menter yr Ifanc yn rhoi cyfle i ddysgwyr brofi’r realiti sydd ynghlwm â rhedeg busnes, o ddatblygu cynhyrchion a marchnata eu syniadau i reoli cyllid a chyflwyno gerbron beirniaid diwydiant. Ar hyd y ffordd, mae myfyrwyr yn adeiladu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, arweinyddiaeth a hyder.

Mae’r profiad hefyd wedi helpu i gryfhau CV dysgwyr a’u portffolios personol, gan roi enghreifftiau ystyrlon iddynt i’w trafod yn ystod cyfweliadau am swyddi ac arddangos y sgiliau ymarferol y maent wedi’u datblygu y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Dywedodd Kelly Wagstaff, darlithydd mewn Busnes a TG yn Coleg Gwent:

"Rwy’n hynod o falch o bopeth y mae ein dysgwyr wedi’i gyflawni trwy’r rhaglen Menter yr Ifanc. Maent wedi cofleidio pob her gan ddangos brwdfrydedd, creadigrwydd a phroffesiynoldeb ac mae eu llwyddiant yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymroddiad y maent wedi’i ddangos drwy gydol y flwyddyn.

Y tu hwnt i’r gwobrau, mae’r profiad wedi rhoi’r sgiliau busnes a chyflogadwyedd ymarferol er mwyn iddynt allu arddangos eu portffolios a siarad yn hyderus mewn cyfweliadau. Mae’r rhain yn brofiadau a fydd yn parhau i fod o fudd iddynt wrth iddynt symud ymlaen i addysg bellach, prentisiaethau a chyflogaeth."

Ychwanegodd Jack Bull, dysgwr o dîm Calm and Colour:

"Mae cymryd rhan yng nghystadleuaeth Menter yr Ifanc wedi bod yn un o’r profiadau gorau i mi yn y coleg. Rhoddodd gyfle i mi weithio’n rhan o fusnes go iawn, datblygu fy hyder a gwella sgiliau megis cyfathrebu, gwaith tîm a datrys problemau.

Roedd cyrraedd Rowndiau Terfynol y DU ac ennill cynifer o wobrau yn rhywbeth rydym yn falch iawn ohono. Mae hefyd wedi rhoi enghreifftiau gwych i mi eu cynnwys yn fy mhortffolio ac i siarad amdanynt mewn cyfweliadau, gan fy helpu i ddangos y sgiliau a’r profiad fy mod wedi’i ennill y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i gyflogwyr."

Llongyfarchiadau i’r holl ddysgwyr a gymerodd ran ar eu cyflawniadau rhagorol ac ar gynrychioli Coleg Gwent mewn ffordd mor broffesiynol, greadigol, a phenderfynol drwy gydol y gystadleuaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar gael yma.