Bywyd yn Coleg Gwent

Cymorth ariannol

student with artwork backgroud

Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael cymorth gyda chost astudio, gyda llawer o wahanol grantiau ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Am gymorth neu gyngor, cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr ar un o’n campysau neu ffoniwch 01495 333777.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)

Os ydych chi’n 16 i 18 oed, yn byw yng Nghymru ac eisiau parhau â’ch addysg ar ôl ysgol, gallai’r LCA roi £30 yr wythnos i chi, a delir bob pythefnos os ydych yn cwblhau Cytundeb Dysgu gyda Choleg Gwent ac yn cynnal lefel presenoldeb o 100%.  Cysylltwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr neu ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am ragor o fanylion.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) - Addysg Bellach

Gallai’r grant hwn roi hyd at £1,500 y flwyddyn i chi os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn, yn astudio cwrs Addysg Bellach yn y coleg, yn cwblhau Cytundeb Dysgu gyda ni ac yn bodloni’r meini prawf presenoldeb ac ymddygiad. I gael gwybod mwy ac i wneud cais, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cronfa Ariannol Wrth Gefn (FCF)

Mae’r gronfa hon yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar brawf modd. Mae’n rhaid ichi fod wedi cofrestru ar gwrs Addysg Bellach llawn amser ac wedi bod yn byw yn y DU neu’r UE am o leiaf dair blynedd cyn dechrau eich cwrs. Mae yna ddyddiad cau i wneud cais, felly dylech wneud cais cyn gynted â phosib.  Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni yma.

FCF 2020/21 ffurflen gais
FCF 2020/21 nodiadau cyfarwyddyd
Ffurflen gais am Gymorth Ariannol gyda Chostau Gofal Plant 2020/21
Polisi FCF 2018/19

Sut all y Gronfa Ariannol wrth Gefn eich helpu chi?

 

  Dysgwr Llawn Amser (12+ awr yr wythnos)
O dan 19 oed Dros 19 oed
Cost tocyn bws Ie Ie
Costau Gofal Plant Ie Ie
Grant Offer Ie Ie
Talebau bwyd Ie Na (ar wahân i amgylchiadau arbennig)

 

Costau tocyn bws mae’r grant hwn yn helpu tuag at gost tocyn bws, felly bydd eich teithiau cymwys yn rhad ac am ddim. Mae’n dal yn ofynnol ichi dalu ffi dymhorol am gerdyn bws (£10 y tymor).

Costau gofal plantbydd hyd at 90% o’ch costau gofal plant ar gyfer un plentyn hyd at uchafswm o £45 y dydd yn cael eu talu os yw incwm blynyddol eich cartref yn llai na £18,000.

Grant offer – bydd y grant yn mynd tuag at brynu offer hanfodol ar gyfer eich cwrs.

Talebau prydau bwydos ydych chi rhwng 16 a 18 oed, ac mae gan eich rhieni (neu chi) incwm blynyddol o lai na £18,370, gallech gael cymorth tuag at gost prydau bwyd yn y coleg trwy dalebau bwyd gwerth hyd at £3.60 bob dydd.

Cymorth Caledios oes gennych broblemau ariannol eithafol neu os yw eich amgylchiadau’n newid a bod hynny’n effeithio ar eich presenoldeb yn y Coleg, gallwch wneud cais am gymorth ariannol drwy’r gronfa hon.  Siaradwch â’r Gwasanaethau Myfyrwyr i gael rhagor o fanylion.

Cyllid ReAct

Ydych chi wedi cael eich gwneud yn ddi-waith yn y 6 mis diwethaf, neu a ydych chi’n wynebu colli eich swydd? Gall ReAct eich helpu i wella’ch siawns o ddychwelyd i’r gwaith trwy ddarparu hyd at £2,500 tuag at gost cyrsiau hyfforddiant galwedigaethol. I wneud cais, cysylltwch â’ch swyddfa Gyrfa Cymru leol a fydd yn eich helpu i edrych ar eich opsiynau.

Ymddiriedolaeth Goffa David Davies

Os ydych chi’n 17 oed ac yn ddibynnol ar weithiwr glo/ cyn-weithiwr glo yn Ne Cymru, gallech gael grant sydd ddim yn seiliedig ar brawf modd o hyd at £300 gan Ymddiriedolaeth Goffa David Davies trwy Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).

Os ydych chi’n meddwl y gallech fod yn gymwys, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Goffa David Davies neu ffoniwch Nicola Taylor ar 01443 485233.

Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) Cymru

Mae DAF Cymru yn disodli rhannau o’r Gronfa Gymdeithasol, a alwyd weithiau’n ‘benthyciadau argyfwng’ neu ‘grantiau gofal cymunedol’. Mae’r gronfa’n cynnig cymorth drwy Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a Thaliadau Cymorth i Unigolion. I wneud cais, ffoniwch 0800 859 5924 neu cliciwch yma.

Gwobr Datblygu Ymddiriedolaeth y Tywysog

Gallai hyn eich helpu gyda chostau trafnidiaeth, offer neu gostau eraill yn ystod eich amser yn y coleg. Darganfyddwch fwy yma.