• Rhan Amser

BCS Tystysgrif Hanfodion mewn Deallusrwydd Artiffisial

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae BCS Tystysgrif Hanfodion mewn Deallusrwydd Artiffisial yn darparu cyflwyniad ymarferol i faes Deallusrwydd Artiffisial a’i rôl gynyddol mewn sefydliadau cyfoes.

Wedi’i ddylunio ar gyfer dysgwyr sy’n meddu ar ychydig o brofiad blaenorol neu ddim profiad blaenorol o gwbl o Ddeallusrwydd Artiffisial, mae’r cwrs un diwrnod hwn yn cyflwyno’r cysyniadau allweddol, y technolegau, a’r derminoleg sy’n gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisial mewn ffordd glir a hygyrch.

… unrhyw un dros 19 oed, sy’n byw yng Nghymru ac sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r terfyn cyflog o £35,796 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

… Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall sut y gall Deallusrwydd Artiffisial gael effaith ar sefydliadau a diwydiannau.

… Pob lefel a math o aelodau staff sydd â diddordeb mewn Deallusrwydd Artiffisial sy’n dymuno ennill cymhwyster cydnabyddedig ond nid oes angen sgiliau technegol neu sgiliau rhaglennu arnynt.

Un diwrnod o hyfforddiant dan arweiniad hyfforddwr a gyflwynir gan hyfforddwyr profiadol NILC, gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i Ddeallusrwydd Artiffisial yn y byd go iawn
  • Ble mae Deallusrwydd Artiffisial yn ychwanegu gwerth a ble mae’n creu risg
  • Sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn gweithio
  • Deallusrwydd Artiffisial cyfrifol a Deallusrwydd Artiffisial y gellir ymddiried ynddo
  • Llywodraethiant a gwneud i Ddeallusrwydd Artiffisial weithio mewn sefydliadau
  • Cymhwyso Deallusrwydd Artiffisial yn ymarfero
  • Dyfodol bodau dynol a Deallusrwydd Artiffisial yn gweithio gyda’i gilydd

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o Ddeallusrwydd Artiffisial neu raglennu.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol
  • ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0098AA
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir
Dyddiau
Hyblyg

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

BGLZ campus looking busy at an open event

Noson Agored Coleg Tachwedd 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Student Union representatives smiling

Noson Agored Coleg Ionawr 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Student ambassador with a campus tour sign

Noson Agored Coleg Mawrth 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2027

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp