• Rhan Amser

PeopleCert Sylfaen ITIL 5

Ymgeisiwch nawr
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Dull Astudio
Rhan Amser
Lleoliad
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn gymhwyster rheoli gwasanaethau TG lefel mynediad sy'n rhoi dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r derminoleg allweddol sy’n ymwneud ag ITIL®. Mae'r pynciau hyn yn cynnwys saith egwyddor arweiniol ITIL® 5, pedwar dimensiwn rheoli gwasanaethau a mwy.

Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).

...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

...cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa

... gall unrhyw un gofrestru a dysgu am dechnegau, terminoleg a phrosesau allweddol ITIL®.

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod

Mae'r cwrs yn cynnwys:

  • Sut mae ITIL® yn datblygu ymhellach, ac yn cefnogi, Lean, Agile, DevOps ac arferion rheoli prosiectau a phrosesau eraill
  • Saith egwyddor arweiniol ITIL® 5
  • System gwerth gwasanaethau ITIL®
  • Pedwar dimensiwn rheoli gwasanaeth
  • Deall pwrpas a thermau allweddol pob un o 15 Arfer ITIL®, gan feddu ar ddealltwriaeth ddofn o saith

Bydd yna arholiad ar ITIL® 5 ar ddiwedd y cwrs.

Mae dealltwriaeth sylfaenol o gysyniadau TG neu brofiad gwaith mewn amgylchedd TG yn ddefnyddiol.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad amser angenrheidiol
  • ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon

Hyblyg

Côd y Cwrs
MPLA0083AA
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiau
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

Digwyddiadau i ddod

Students smiling outside campus

Noson Agored Coleg Mehefin 2026

Manylion
Pob cwrs
Lleoliad
Pob campws
Amser
5yp - 7.30yp
Ymgeisiwch nawr
Higher Education students walking with tutor

Digwyddiad Agored Addysg Uwch Awst 2026

Manylion
Higher education courses
Lleoliad
I’w gadarnhau
Amser
3yp - 6yp
Darganfod mwy