Yn gryno
Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth amgylcheddol i yrru newid ar lefel uwch? Efallai yr hoffech chi wella eich set sgiliau a chymhwyso fel ymarferydd amgylcheddol cymwys.
IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol fel ymarferydd cynaliadwyedd. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio ei aelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd (PIEMA) ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).
Mae sylabws cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn cynnwys ystod eang o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd er mwyn eich galluogi chi i ddod yn ymarferydd sy’n gallu gyrru newid mewn sefydliadau. Caiff ymagwedd ymarferol ei mabwysiadu i alluogi i sefydliadau wella eu perfformiad amgylcheddol a lleihau eu heffeithiau, yn strategol ac yn weithredol.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Menter gan Lywodraeth Cymru yw'r PLA sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau am ddim a rhan-amser gyda ffordd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy'n cyd-fynd a'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd).
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o £34,303 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... unrhyw un y mae angen iddo gael dealltwriaeth ddwysach o egwyddorion rheolaeth amgylcheddol, gan gynnwys y rhai sydd wedi ennill Tystysgrif Sylfaen IEMA sy’n dymuno symud eu gyrfa ymlaen yn y sector hwn.
Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.
Hyd y Cwrs: 15 diwrnod fel 3 wythnos hollt
Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:
UNEDAU
Modiwl 1 – Gwybodaeth sylfaenol am gynaliadwyedd, busnes a llywodraethu
Modiwl 2 – Egwyddorion amgylcheddol, polisi a deddfwriaeth
Modiwl 3 – Rheolaeth amgylcheddol, adnoddau asesu a sgiliau
ASESIADAU
Mae tri aseiniad sy’n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer pob modiwl a addysgir. Mae hyn ar ffurf dogfen ysgrifenedig ar gyfer pob un o’r tri modiwl, i’w cwblhau ar ddiwedd pob modiwl o’r cwrs.
Yna, bydd angen i chi gwblhau Asesiad Cymhwysedd sy’n seiliedig ar brofiad gwaith; byddwch chi’n sefyll hwn ar ôl llwyddo i gwblhau pob modiwl arall. Trwy wneud hyn, byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Aelodaeth Ymarferydd IEMA (PIEMA).
Tystysgrif Sylfaen IEMA neu wybodaeth/profiad ym maes Cynaliadwyedd.
Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur Windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.
Mae rhaglen PLA yn bwriadu darparu cyngor a chanllawiau gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.
Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:
-
addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
-
profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
-
dyheadau gyrfa
-
ymroddiad amser angenrheidiol