Yn gryno
Dyrchafwch eich sgiliau gyda'r cwrs hyfforddiant hwn a gynlluniwyd ar gyfer marchogwyr sy'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3. Gan ganolbwyntio ar ofal ceffylau, ymarfer ffrwyn hir (lunging) a marchogaeth gwastad (flat riding), mae'r cwrs yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sy'n ddisgwyliedig gennych ar Gam 3, gan eich helpu chi i fireinio eich techneg a pharatoi ar gyfer asesiadau.
Ydych chi wedi ennill eich cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 2 a'ch bod chi'n barod i ddyrchafu eich sgiliau eto.
Ydych chi'n awyddus i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o ofal, hyfforddiant a pherfformiad ceffylau o fewn amgylchedd marchogaeth proffesiynol.
Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau marchogaeth gwastad a'ch hyder wrth weithio'n annibynnol â cheffylau.
Ydych chi am weithio o fewn y diwydiant ceffylau neu symud ymlaen ymhellach ar hyd llwybr cymhwyster proffesiynol Cymdeithas Ceffylau Prydain.
Gan adeiladu ar sylfeini Cam 2, bydd y diwrnodau hyfforddi hyn yn eich helpu i fireinio'ch sgiliau gofal ceffylau, ffrwyn hir a marchogaeth wrth ddatblygu'r wybodaeth, yr hyder a'r annibyniaeth sydd eu hangen ar gyfer Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3. Byddwch yn gweithio tuag at safon uwch o ran gofal ceffylau, ymarfer ffrwyn hir a marchogaeth gwastad, gyda phwyslais cryf ar lesiant ceffylau, effeithiolrwydd ac arfer proffesiynol.
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi’n:
- Datblygu gwell ddealltwriaeth o ofal ceffylau uwch a rheoli stablau, gan gynnwys iechyd, ffitrwydd, maeth, cyflyru ac adnabod ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad a llesiant.
- Gwella eich sgiliau rheoli ceffylau ymarferol drwy ddysgu sut i wneud penderfyniadau gwybodus wrth ofalu am geffylau a'u rheoli mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.
- Archwilio sut mae ymarfer ffrwyn hir yn cyfrannu at addysg a hyfforddiant ceffylau, gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau i wella ffordd o fynd (way of going), ymatebolrwydd a pherfformiad cyffredinol.
- Ymarfer ffrwyn hir â cheffylau yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gynnwys asesu symudiadau, defnyddio awenau ochr yn briodol, gwella trosiadau ac addasu sesiynau i ddiwallu anghenion hyfforddi unigol.
- Datblygu eich marchogaeth gwastad ymhellach, gan ganolbwyntio ar ddatblygu ystum cytbwys ac effeithiol a marchogaeth gyda gwell gywirdeb, teimlad a dylanwad.
- Dysgu sut i hyfforddi ceffylau yn fwy annibynnol, gan wella rhythm, cydbwysedd, hyblygrwydd ac ymatebolrwydd trwy ymarferion strwythuredig.
- Meithrin hyder wrth werthuso perfformiad ceffylau a gwneud addasiadau priodol i wella canlyniadau hyfforddi.
- Meithrin y sgiliau ymarferol a'r wybodaeth broffesiynol sy'n ddisgwyliedig gan y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant ceffylau neu symud ymlaen i gymwysterau BHS uwch.
Dylai dysgwyr fod wedi cyflawni cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 2 perthnasol mewn Gofal, Ffrwyn Hir a Marchogaeth (neu feddu ar brofiad cyfatebol) a bod ag ymrwymiad i ddatblygu eu gwybodaeth a sgiliau ceffylau ymarferol.
Dylai dysgwyr fod o leiaf 19 oed a disgwylir iddynt fynd i asesiad marchogaeth cyn dechrau’r cwrs.
DS – Er mwyn sicrhau llesiant ein ceffylau, mae gan ein canolfan farchogaeth derfyn pwysau marchogaeth o 14 stôn. Mae modd i bob ymgeisydd astudio opsiwn marchogaeth neu heb farchogaeth ar bob un o'n cyrsiau ceffylau ac felly ni fydd yn cael ei wrthod rhag dilyn y cwrs.
Caiff yr hyfforddiant ei arwain gan ein Hyfforddwr Cymdeithas Ceffylau Prydain Uwch, gan gynnig hyfforddiant proffesiynol ac arbenigedd yn y diwydiant mewn amgylchedd dysgu cefnogol.
Bydd angen i chi gael het farchogaeth sy’n ffitio’n gywir sy’n bodloni safonau diogelwch presennol.
Dylai dysgwyr wisgo dillad marchogaeth a stablau sy'n addas ar gyfer sesiynau ymarferol yn ogystal â sesiynau marchogaeth.
Noder bod y cwrs hwn wedi'i gynllunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau Cymdeithas Ceffylau Prydain Cam 3 mewn Gofal, Ffrwyn Hir a Marchogaeth Gwastad; fodd bynnag, nid yw'r cwrs hwn yn cynnwys yr asesiadau ffurfiol.