Yn gryno
Mae’r cwrs 1 mlynedd hwn yn rhoi dealltwriaeth gychwynnol o Beirianneg Fecanyddol. Bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gychwyn eich gyrfa mewn diwydiant sy’n talu’n dda.
Mae'r cwrs hwn yn addas ar eich cyfer os ydych yn gweithio mewn diwydiant peirianyddol ac yr hoffech ennill rhai cymwysterau ffurfiol er mwyn datblygu eich hun ymhellach. Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu yn rhan amser dros ddwy flynedd, un diwrnod yr wythnos, fel ei fod yn gallu cyd-fynd ochr yn ochr â'ch ymrwymiadau gwaith
Byddwch yn astudio chwe uned dros ddwy flynedd. Mae'r unedau'n gyfuniad o waith theori ac ymarferol a bydd yn cael ei ddysgu mewn amrywiaeth o ofodau ymarferol a lleoliadau ystafell ddosbarth. Mae'r cwrs yn cwmpasu cynnwys peirianneg gyffredinol yn ogystal ag unedau sy'n gogwyddo tuag at waith mecanyddol a thrydanol. Ystyrir bod gan y cwrs agwedd aml-sgil iddo.
Dylech fod â 4 gradd TGAU D neu uwch i gynnwys Saesneg a Mathemateg gradd C. Bydd ymgeiswyr hŷn yn cael eu hystyried ar sail unigol yn seiliedig ar sgiliau, profiad a gwybodaeth.
Byddwch angen gwisgo esgid ddiogelwch a throswisg ar gyfer y cwrs hwn a bydd angen eu gwisgo ym mhob lleoliad ymarferol.