Yn gryno
Os ydych yn dilyn gyrfa mewn peirianneg drydanol, bydd y cwrs dwy flynedd, rhan amser hwn yn eich helpu chi i ennill y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i'r cymwysterau NVQ mewn Peirianneg Lefel 3. Mae'n opsiwn arall gwerthfawr os nad oes gennych fynediad at y cymhwyster NVQ
.unrhyw un sydd eisiau dilyn rhaglen Prentisiaeth
...datblygu eich gyrfa yn y diwydiant peirianneg
...datblygu'r sgiliau yr ydych wedi'u dysgu o gymwysterau eraill
...darparu tystiolaeth tuag at wybodaeth graidd y N/SVQ
Bydd angen i chi fod yn unigolyn rhifog, creadigol sydd â diddordeb brwd mewn peirianneg drydanol ac electronig, yn ogystal â bod yn gwbl ymroddedig i bresenoldeb, gallu cymell eich hun a bod yn brydlon.
Mae'r rhaglen hon yn cwmpasu ystod eang o unedau gorfodol ac opsiynol, yn cynnwys:
- Iechyd a diogelwch yn y maes Peirianneg
- Egwyddorion dyfeisiau a chylchedau electronig a'u defnydd
- Egwyddorion peirianneg drydanol ac electronig
- Egwyddorion cyflenwad pwer ac analog a chylchred digidol, a dod o hyd i ddiffygion
- Cynnal a chadw offer a systemau trydanol
- Egwyddorion ac ymarfer rheoli pwer electronig
Cewch eich asesu drwy arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, asesiad ymarferol a gwaith portffolio cyn y dyfarnir y Diploma mewn Peirianneg Lefel 3 City & Guilds (Peirianneg Drydanol ac Electronig). Os ymgymeroch â mathemateg uwch a gwyddoniaeth fel uned opsiynol o fewn y cymhwyster, gallwch fynd ymlaen i gymhwyster lefel uwch (e.e. HNC).
Bydd angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg (Peirianneg Drydanol ac Electronig) a chymwysterau sgiliau cysylltiedig.
Fel rhan o'r cwrs hwn byddwch hefyd yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol megis hunanreolaeth, gweithio mewn tîm, ymwybyddiaeth busnes a chwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol ac agwedd gadarnhaol at waith. Bydd angen i chi ddarparu eich Cyfarpar Diogelu Personol eich hun (esgidiau dur trymion ac oferôls o ddeunydd gwrthdan) a'ch offer ysgrifennu a'ch ffolderi eich hun.